Skip to main content

£2miliwn yn ychwanegol i gynlluniau priffyrdd Tonyrefail a Llanharan

Mae'n bosibl y gallai datblygu dau brosiect priffyrdd mawr yn Nhonyrefail a Llanharan dderbyn £1miliwn yn ychwanegol yr un, yn dilyn trafodaethau yn y Cabinet yr wythnos nesaf.

Ym mis Mawrth, fe fu Aelodau o'r Cabinet yn trafod deuoli ffordd yr A4119 o Goed-elái i Ynysmaerdy, ynghyd â ffordd osgoi newydd yr A473 yn Llanharan. Cytunwyd hefyd i bennu £302,000 o arian, drwy raglen Gwneud Gwell Defnydd y Cyngor, er mwyn dechrau gwaith dichonoldeb, dylunio/cynllunio, a datblygu.

Cynlluniau pwysig yw'r ddau ohonynt, ac yn ddyheadau tymor hir i'r Cyngor ac i’r cymunedau lleol. Caent eu cyflawni mewn blynyddoedd ariannol i ddod, a byddent yn gwella llif y traffig ar lwybrau cymudo prysur.

Byddai'r prosiect o gwmpas Tonyrefail a Llantrisant yn deuoli ffordd lôn gerbyd sengl bresennol yr A4119 o Goed-elái i Ynysmaerdy, a adweinir yn lleol fel Stinkpot Hill. Mae'r ffordd yma'n ffurfio coridor cludiant strategol, gan gysylltu Cwm Rhondda Fawr â Llantrisant neu Donysguboriau a Chyffordd 34 yr M4.

Bydd y cynllun yma'n helpu i ddatrys y tagfeydd beunyddiol o gwmpas Tonyrefail. Yma, mae ffordd yr A4119 yn cysylltu â rhwydwaith priffyrdd sy'n gwasanaethu Ysbyty Brenhinol Morgannwg, y Bathdy Brenhinol, a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru gerllaw hefyd.

Caiff cynllun ffordd osgoi Llanharan, ger ffordd yr A473, ei adeiladu yn arwain o'r gylchfan yn agos i Stiwdios Dragon Film, ac yn cysylltu â ffordd yr A473 i'r dwyrain o Lanharan. Mae rhan orllewinol y ffordd osgoi arfaethedig eisoes wedi cael ei hadeiladu o ganlyniad i ddatblygiadau sydd wedi digwydd yn yr ardal.

Mae'r cynllun wedi'i gynnwys yn y Cynllun Datblygu Lleol, sy'n awgrymu dwy opsiwn o ran llwybrau. Mae angen gwaith pellach er mwyn asesu hyfywedd y llwybrau yma.

Mae'r adroddiad i'r Cabinet yn pennu safbwynt y Cyngor mewn perthynas ag adnoddau untro sydd ar gael yn dilyn adolygiad o gronfeydd arian wrth gefn a glustnodwyd. Mae'r adroddiad yn argymell i'r Cabinet gytuno ar fuddsoddiad o £3miliwn mewn cynlluniau priffyrdd. Byddai hyn yn cynnwys cyllid o £1miliwn i brosiectau Tonyrefail a Llanharan. 

"Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i wella rhwydwaith priffyrdd Rhondda Cynon Taf," meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet sydd â chyfrifoldeb am Briffyrdd "Bydd hyn yn faes blaenoriaeth o ran buddsoddi drwy raglen gyfredol #BuddsoddiadRhCT.

"Byddai'r buddsoddiadau pellach arfaethedig yng ngwaith deuoli ffordd yr A4119 yng nghynlluniau Tonyrefail a ffordd osgoi Llanharan, a fydd yn destun trafodaethau'r Cyngor ddydd Iau, yn amlygu cam sylweddol arall ymlaen yng ngwaith cyflawni'r ddau gynllun. Ar ben hynny, byddai'n rhoi sicrwydd i'r preswylwyr fod y Cyngor yn hollol benderfynol o gyflawni'r ymrwymiadau cyhoeddus a wnaeth y Cabinet ym mis Mawrth diwethaf.

Byddai'r buddsoddiad o £2filiwn yn cyfrannu at wneud y cynlluniau yn barod ar gyfer eu datblygu, ac yn fodd felly i wneud cynnydd pellach.

“Dyma enghraifft arall o'r Cyngor yn targedu buddsoddi er mwyn gwella ein priffyrdd a'u gwneud yn addas ar gyfer y dyfodol. Bydd hyn er budd i'r preswylwyr ac i ddefnyddwyr ffyrdd fel ei gilydd. Mae'r cynlluniau yn Nhonyrefail a Llanharan mewn pwyntiau cymudo prysur, lle mae posibilrwydd o wella llif y traffig yn sylweddol ar adegau allweddol.”

Wedi ei bostio ar 25/10/2017