Skip to main content

Apêl Siôn Corn 2017

 

Y llynedd fe dderbyniodd dros 2,000 o blant llai ffodus Rhondda Cynon Taf anrheg (neu ddwy!) i'w hagor ar Ddydd Nadolig, diolch i Apêl Siôn Corn.

Cyngor Rhondda Cynon Taf sy' rhedeg yr apêl lwyddiannus yma, ac mae'r Cyngor wrth ei fodd i gadarnhau fod Apêl Siôn Corn 2017 ar agor bellach. Dyma annog preswylwyr i ddangos eu cefnogaeth, a gofalu fod mwy o blant nac erioed ar eu hennill eleni.

"Apêl Siôn Corn yw'r ffordd berffaith i breswylwyr a busnesau ddangos ysbryd enwog y Cymoedd," meddai'r Cynghorydd Tina Leyshon, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Plant a Phobl Ifainc ."Awn ni â hud y Nadolig at blant yn Rhondda Cynon Taf na fyddent ddim yn debyg o gael agor anrheg ar Ddydd Nadolig.

"Roeddem ni wrth ein bodd y llynedd yn casglu mwy na 2,000 o anrhegion, diolch i haelioni pobl leol ac i gymorth defnyddwyr ein gwasanaethau oedolion yn siop Learning Curve. Roedd y rheiny wedi cynnig eu hamser o'u gwirfodd er mwyn casglu'r anrhegion o fannau casglu.

O ganlyniad i Apêl Siôn Corn, mae pobl sydd heb fawr ddim eu hunain wedi rhoi er mwyn cwmpasu talu am gost anrheg i un plentyn. Daeth grwpiau o bobl o weithfeydd, cyrff, timau chwaraeon, a phrifysgolion at ei gilydd hefyd, er mwyn cyflwyno bwndel o anrhegion.

"Dyma ymgyrch dwymgalon yn wir, un sy'n fodd i ni ddathlu gwir hud y Nadolig ac ysbryd y gymuned”.

Bydd Apêl Siôn Corn ar agor i'r cyhoedd o 1af Tachwedd i 24ain Tachwedd. Y cyfan y mae angen i chi'i wneud yw ffonio cynorthwywyr bach Siôn Corn ar 01443 425025 (llinellau ar agor o 9.30yb i 4.30yp (Dydd Mawrth i Ddydd Gwener) neu yrru ebost dan y teitl Apêl Siôn Corn at gwasanaethauigwsmeriaid@rctcbc.gov.uk.

Dywedwch wrth y swyddogion faint o blant y byddech chi'n hoffi prynu anrhegion iddynt. Byddan nhw yn rhoi i chi enw ac oedran plentyn a fyddai'n dwlu cael derbyn anrheg. Dewiswch anrheg a mynd â hi i'ch man casglu agosaf mewn bag anrheg erbyn 1af Rhagfyr. Bydd staff siop Learning Curve yn gallu'i chasglu, a gofalu'i bod yn cyrraedd Siôn Corn mewn da bryd i'w dosbarthu Noswyl Nadolig.

Cofiwch roi'r anrhegion mewn bag anrheg. Peidiwch â'u lapio.

 

Wedi ei bostio ar 06/11/17