Skip to main content

Heol Meisgyn yn ailagor yn dilyn gwaith dymchwel bythynnod

Mae'r Cyngor wedi cwblhau gwaith dymchwel adeiladau ar Heol Meisgyn, yn rhan o gynllun y Ffordd Gyswllt ar draws y Cwm yn Aberpennar. O ganlyniad i hyn, mae rhan un ffordd Heol Meisgyn wedi ailagor i fodurwyr.

Mae Bythynnod Meisgyn ar Heol Meisgyn, yn ogystal â'r garejys cyfagos, bellach wedi'u dymchwel. Yn rhan o'r gwaith, roedd rhaid cau rhan un ffordd Heol Meisgyn dros dro er budd diogelwch y cyhoedd. Yn dilyn y gwaith dymchwel, ail-agorodd y ffordd ddydd Mercher, 29 Tachwedd.

Prif nod y cynllun yn gyffredinol yw adeiladu pont 60m o uchder o Ystad Ddiwydiannol Cwm Cynon i Heol Meisgyn, sy'n mynd dros reilffordd Aberdâr-Caerdydd ac Afon Cynon. Bydd hyn yn darparu cysylltiad allweddol i draffig ar ffordd yr A4059 a ffordd y B4275, ac yn lleddfu tagfeydd yn yng nghoridor ehangach Cwm Cynon.

Dyma garreg filltir arall i'r cynllun yma, sy'n gwneud cynnydd aruthrol yn gyffredinol. Cafodd caniatâd cynllunio ei roi a chafodd contractwr dylunio ac adeiladu ar gyfer y prif gynllun ei benodi yn gynnar eleni. Law yn llaw â hyn, mae gwaith cyflwyno gwelliannau mawr i gyffordd ffordd yr A4059/Ystad Ddiwydiannol Cwm Cynon yn mynd yn eu blaenau.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet sy'n gyfrifol am y Priffyrdd: "Bellach, mae contractwyr wedi cwblhau'r gwaith dymchwel angenrheidiol ar Heol Meisgyn, sy'n garreg filltir arall yng nghynllun y Ffordd Gyswllt ar draws y Cwm yn Aberpennar.

“Bu raid cau'r ffordd dros dro er mwyn gwneud y gwaith mewn ffordd ddiogel. Roedd y llwybr amgen yn mynd ar hyd Bailey Street a Glyngwyn Street. Hoffwn i ddiolch i'r preswylwyr am eu cydweithrediad wrth i ni gwblhau'r gwaith yma.

“Mae'n gyfnod cyffrous yn hanes cynllun y Ffordd Gyswllt ar draws y Cwm. Mae gwaith yn mynd rhagddo ar ddwy ochr yr afon. Rydyn ni hefyd yn gwneud gwelliannau i gyffordd ffordd yr A4059/Ystad Ddiwydiannol Cwm Cynon. Yr haf nesaf, byddwn ni'n bwrw ymlaen â'r gwaith adeiladu strwythur pont newydd a'r ffordd gyswllt.

"Mae'r Ffordd Gyswllt wedi bod yn freuddwyd barhaus i'r gymuned leol. Wrth i gam ar ôl cam o'r cynllun gael eu cwblhau, mae modd i drigolion weld eu breuddwyd yn cael ei gwireddu."

Wedi ei bostio ar 29/11/2017