Skip to main content

Cynigion Hamdden am Oes Arbennig

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn cynnig amrywiaeth eang o gynigion fydd yn arbed arian i holl aelodau Hamdden am Oes fel modd o ddweud diolch am gofrestru ar gyfer y fenter lwyddiannus hon. 

Mae'r Cyngor yn cydweithio â Nokia, Champneys Health Spa, Oasis, Cotswold Outdoor, Yswiriant Anifeiliaid Anwes PDSA, Skins, Krups, Gousto, Snow and Rock a Fitbit er mwyn lansio e-lyfryn cynigion cyntaf Hamdden am Oes. 

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden: "Rydyn ni'n gwerthfawrogi pob un o'n haelodau Hamdden am Oes. Er mwyn dweud diolch, rydyn ni'n cynnig amrywiaeth arbennig o ostyngiadau, cynigion arbennig a gwobrau. 

"Mae'r Cyngor yn falch iawn o weithio mewn partneriaeth â nifer o gwmnïau mawr sydd wedi creu cynigion gwych y bydd modd i aelodau Hamdden am Oes fanteisio arnyn nhw. 

"Rydyn ni'n gobeithio y bydd pobl yn manteisio ar y cynigion yma wrth i ni agosáu at y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd." 

Mae'r cynigion arbennig yn cynnwys peiriant coffi Krups am hanner y pris arferol ac arbedion ar feiciau i blant ac oedolion. Mae'r cynigion hefyd yn cynnwys arbedion ar fwyd protein, bwyd anifeiliaid, yswiriant ar gyfer anifeiliaid, dillad nofio ac ar gyfer y gampfa, clustffonau a chynigion golff Open Fairways a thriniaeth 25 munud yn Champneys Health Spa AM DDIM

Mae'r Cyngor hefyd yn cynnig 'Sesiwn Blasu yn y Pwll a'r Gampfa' AM DDIM ar gyfer y rheiny sydd ddim yn aelodau Hamdden am Oes yn rhan o fenter 'Dewch a Ffrind AM DDIM' ar gyfer aelodau. 

Mae aelodaeth Hamdden am Oes ar gael i bawb, ac yn costio cyn lleied â 95c y dydd (ar sail aelodaeth flynyddol oedolyn). Mae yna ostyngiadau ar gael a does dim ffi ymaelodi. Bydd gan aelodau fynediad at BOB canolfan hamdden y Cyngor ledled y Fwrdeistref Sirol.

Mae gan dros 10,000 o aelodau fynediad at y gampfa, y pwll nofio a dosbarthiadau amrywiol yn ogystal â chwaraeon dan do a PHOB canolfan hamdden y Cyngor. Does dim un awdurdod lleol arall yn y rhanbarth yn cynnig mynediad mor gynhwysfawr at hamdden am un taliad misol. 

Ydych chi'n Aelod Hamdden am Oes? Os nad ydych chi, mae modd cofrestru ar-lein. Manteisiwch ar yr holl gynigion arbennig sydd ar gael! Ewch i www.rctcbc.gov.uk/aelodaethhamdden  

Wedi ei bostio ar 07/11/17