Skip to main content

Mae Frank yn ôl yn ein Theatrau!

Mae'r actor a'r dramodydd, Frank Vickery, sy'n wreiddiol o Gymru, yn dychwelyd i theatrau Rhondda Cynon Taf am y seithfed tro er mwyn chwarae rôl yr Hen Wraig draddodiadol. 

Bydd hwn yn sioe arbennig i'r teulu cyfan dros ŵyl y Nadolig wrth i Aladdin dywys cynulleidfaoedd ar daith ar ei garped hudol. Dyma fydd seithfed cyfle Frank, a gafodd ei eni yn y Cymoedd, i chwarae rôl yr Hen Wraig. 

Bydd cynulleidfaoedd yn teithio'n ôl i Old Peking dros y Nadolig. Bydd Maxwell James yn chwarae rôl y dihiryn annwyl, Aladdin, bydd Laura Clements yn chwarae rôl y Dywysoges Jasmine a Lee Gilbert fydd yn chwarae Abanazar drygionus. Bydd y sioe hefyd yn cynnwys Ryan Owen fel Tommy'r gath, Jared Christopher fel Genie'r Lamp, Tamara Brabon fel Genie'r Fodrwy, Bridie Smith fel Plismon Ping a Deiniol Wyn Rees fel Plismon Pong.  

Meddai Frank Vickery: "Rydw i'n edrych ymlaen yn arw at ddychwelyd i Theatr y Colisëwm a Theatr y Parc a'r Dâr fel Widow Twankey yn ystod mis Rhagfyr." 

"Rydw i'n falch iawn o fod yn rhan o banto hudol Aladdin ac o weithio gyda chast arbennig. Dyma'r seithfed tro byddaf i'n chwarae rôl yr Hen Wraig yn Theatrau RhCT, ac rydw i'n gwisgo ambell i wisg feiddgar. 

"Does dim byd gwell na thymor y pantomeim. Mae hi'n gyfnod hwyl ar gyfer y teulu cyfan, a'r cast hefyd! Mae pobl yn cyrraedd y theatrau yn wên o glust i glust ac yn gadael yn chwerthin llond eu bol." 

Cafodd Frank Vickery ei eni a'i fagu yng Nghwm Rhondda, ac mae'n falch iawn o'i wreiddiau. Mae ef wedi cael gyrfa lwyddiannus fel dramodydd ac actor ac wedi ennill nifer o wobrau. Mae ei gynyrchiadau, yr ysgrifennodd ef nhw ei hun, yn cynnwys See You Tomorrow, Tonto Evans, Amazing Grace, Granny Annie, Erogenous Zones, Loose Ends, A Night on the Tiles, Roots and Wings, Family Planning, a Trivial Pursuits

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden: "Mae adeg y Nadolig yn gyfnod arbennig o'r flwyddyn, a does dim byd gwell na mynd â'r teulu i weld pantomeim, un o draddodiadau hynaf yn hanes y theatr. 

"Mae'r Cyngor yn falch iawn o groesawu Frank Vickery i'n llwyfannau, unwaith eto. Mae ef wedi gweithio â'n theatrau am sawl flwyddyn ac yn enw cyfarwydd ym myd y pantomeim bellach. Mae ef hefyd yn ddramodydd o fri hefyd. 

"Rydw i'n siwr y bydd ef yn dod â chymeriad Widow Twankey yn fyw yn ei ffordd ei hun ac yn diddanu'r holl blant a'r oedolion sy'n dod i'w weld." 

Mae cynhyrchiad 2017 pantomeim Aladdin yn dilyn llwyddiant pantomeim Dick Whittington y Cyngor y llynedd. 

Meddai Maxwell James, sy'n chwarae rôl Aladdin: "Rydw i wrth fy modd i fod yn ôl yn Theatrau RhCT i chwarae rôl yr arwr, Aladdin, eleni. 

"Mae Aladdin yn ddihiryn annwyl sydd o hyd yn mynd i helynt, ond mae e'n ddyn da." 

Meddai Laura Clements, sy'n chwarae rôl y Dywysoges Jasmine: "Rydw i'n edrych ymlaen yn arw at chwarae'r rôl yma. Mae gyda ni gast talentog, set wych a chaneuon arbennig. Bydd hi'n antur a hanner." 

Yn ystod y gyfres o berfformiadau yn y ddwy theatr, bydd ‘perfformiadau hamddenol’ Aladdin ar gael ar gyfer pobl ag anawsterau dysgu, a'u teuluoedd a'u cynhalwyr. 

Bydd Aladdin yn cael ei berfformio yn Theatr y Theatr y Colisëwm, Aberdâr, rhwng 1 a 10 Rhagfyr (ar ddyddiadau penodol) ac yn Theatr y Parc a'r Dâr, Treorci, rhwng 16 a 24 Rhagfyr. 

Mae tocynnau ar werth nawr. Oedolyn £15.50; Gostyngiad £12.50; Tocyn teulu £48; Aelod o grŵp ysgol £9. Mae amseroedd y perfformiadau yn amrywio.

Ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 03000 040 444 neu ewch i www.rct-theatres.co.uk.

Bydd yna berfformiadau ar gyfer ysgolion rhwng dydd Iau, 30 Tachwedd a dydd Mercher, 12 Rhagfyr. 

Wedi ei bostio ar 07/11/2017