Skip to main content

Ehangu gwasanaeth bws 122 o Donypandy i Gaerdydd

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi gweithio gyda gweithredwr bws Stagecoach i ddarparu bysiau yn fwy aml ar hyd gwasanaeth 122 o Donypandy i Gaerdydd.

O ddydd Llun 27 Tachwedd, bydd bysiau yn teithio'r llwybr bedair gwaith yr awr (bob 15 munud), dyma gynnydd o dair gwaith yr awr (bob 20 munud). Bydd y llwybr hefyd yn ehangu, gan wasanaethu Cefn-yr-hendy am y tro cyntaf.

Mae ehangu gwasanaeth 122 yn gwella'r cynnig trafnidiaeth gyhoeddus ac yn annog trigolion i ddefnyddio'r bws yn lle gyrru car a fydd, yn ei dro, yn lleihau tagfeydd a gwella llif y traffig ar lwybrau lleol.

Mae hyn yn dilyn gwaith adnewyddu i Orsaf Fysiau Tonypandy, wedi'i gyflawni gan y Cyngor y llynedd, a'r buddsoddiad sylweddol parhaus i wella'r safleoedd bysiau ar hyd coridor yr A4119 sy'n rhan o'r gwasanaeth yma.

Mae'r Cyngor wedi clustnodi £1m ychwanegol, trwy raglen #buddsoddiadRhCT, i ddatblygu gwaith deuoli'r A4119 rhwng Coed-elái ac Ynysmaerdy – neu ‘Stinkpot Hill’ yn lleol – er mwyn gwella llif y traffig yn ystod cyfnodau prysur. Bydd y cynllun yn cael ei gyflawni mewn blwyddyn ariannol yn y dyfodol.

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden: “Yn ystod y 12 mis diwethaf mae'r Cyngor wedi buddsoddi mewn adnewyddu Gorsaf Fysiau Tonypandy, yn ogystal â safleoedd bws ar hyd y llwybr sylweddol yma er budd teithwyr. Trwy raglen #buddsoddiadRhCT, mae'r Cyngor yn buddsoddi yn sylweddol mewn trafnidiaeth a seilwaith y priffyrdd.

“Bydd rhwydwaith trafnidiaeth gwell yn lleihau tagfeydd ar ein ffyrdd gan ei gwneud hi'n haws i drigolion deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus.

“Rwy'n hapus bod ein gwelliannau ar hyd coridor yr A4119 yn mynd ochr yn ochr â rhagor o fysiau wedi'u darparu bob awr gan Stagecoach, gan bwysleisio cryfder perthynas weithio'r Cyngor â'r cwmni. Trwy gynnig gwasanaethau yn fwl aml ac ymweld â chymunedau newydd fel Cefn-yr-hendy, bydd trafnidiaeth gyhoeddus yn fwy deniadol na gyrru.”

Ychwanegodd Nigel Winter, Rheolwr Gyfarwyddwr Stagecoach yn Ne Cymru: “Gan weithio gyda Chyngor Rhondda Cynon Taf, rydyn ni wedi cynyddu amlder gwasanaeth bws 122 o wasanaeth 20 munud i wasanaeth 15 munud. Dyma newyddion gwych i deithwyr yn Rhondda Cynon Taf sydd am deithio o Donypandy i Gaerdydd trwy Donysguboriau.

“Rydyn ni wedi buddsoddi'n sylweddol mewn technoleg newydd i ddarparu gywbodaeth well i deithwyr am eu taith a ffordd haws o gadw a thalu am docynnau. Mae ein gwefan ac ap newydd yn rhoi cyfle i gwsmeriaid ddod o hyd i'w safle bws agosaf, cynllunio'u taith, cael gwybod am amser y bws nesaf, prynu'u tocynnau, a hynny trwy ddefnyddio gwybodaeth 'amser real'.

“Mae'r ap hefyd yn rhoi cyfle i gwsmeriaid ddilyn eu cynnydd yn ystod taith fel bod modd iddyn nhw wybod pryd i adael y bws. Yn ogystal â modd i dalu ag arian parod, rydyn ni'n cynnig tocynnau clyfar a modd i dalu drwy ffôn symudol, ac rydyn ni wedi ymroi i gyflwyno taliadau â cherdyn di-gyffwrdd erbyn 2018."

Wedi ei bostio ar 28/11/2017