Skip to main content

Cau pont droed ar frys ger Parc y Gelligaled, Llwynypïa

Mae'r Cyngor wedi cau pont droed yn Llwynypïa i sicrhau diogelwch y cyhoedd yn sgil pryderon am ei chyflwr strwythurol.

Mae'r bont droed – dros reilffordd Caerdydd–Treherbert – yn cysylltu Pontrhondda Avenue a Pharc y Gelligaled â Nant-y-gwyddon Road. Bydd hi'n cael ei chau ar frys o 7 Tachwedd tan 28 Tachwedd. Pan ddaw'r cyfnod yma i ben, mae'n bosibl bydd y bont droed yn cael ei chau dros dro am 18 mis arall.

Aeth swyddogion y Cyngor ati i gynnal archwiliad gweledol o'r bont, a chafodd ei benderfynu y dylai'r bont cael ei chau er diogelwch y cyhoedd, nes bydd archwiliad manwl ac asesiad o'r strwythur wedi eu cwblhau.

Yna bydd modd cynnal gwerthusiad peirianyddol ynghylch a fydd hi'n bosibl i'r Cyngor ailagor y bont droed yn ddiogel.

Tra bydd y bont droed ar gau, bydd modd i gerddwyr – o ochr ddwyreiniol y bont – fynd ar hyd Pontrhondda Avenue, Pontrhondda Road, Sherwood Street, Oakfield Terrace, Salem Terrace, a Nant-y-gwyddon Road, i gyrraedd ochr orllewinol y bont.

Bydd modd i gerddwyr fynd i'r cyfeiriad arall drwy ddechrau yn y man olaf (uchod) a gweithio'n ôl.

Wedi ei bostio ar 13/11/2017