Skip to main content

Newidiadau i Gasgliadau Gwastraff Clinigol o 1 Rhagfyr

O 1 Rhagfyr, 2017, bydd y trefniadau casglu gwastraff clinigol o gartrefi preswylwyr Rhondda Cynon Taf yn newid.

Fydd y Cyngor ddim yn gyfrifol am gasglu'r gwastraff clinigol yma ar ôl 1 Rhagfyr. Bydd y casgliadau yma'n cael eu trosglwyddo i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf.

Mae gwastraff clinigol mewn lleoliadau domestig yn cynnwys:

  • Offer miniog meddygol (nodwyddau, chwistrellau neu offer miniog eraill) – sy'n cael eu cadw mewn biniau melyn.
  • Gwastraff clinigol peryglus (rhwymau neu glytiau wedi'u heintio â gwaed neu wastraff dialysis) – sy'n cael ei storio mewn bagiau gwastraff clinigol oren.

Nodwch:

Dydy cadachau anymataliaeth a gwastraff stoma, cathetr/colostomi ddim yn gymwys ar gyfer casgliad Gwastraff Clinigol. Mae modd gwaredu'r gwastraff yma mewn bagiau bin du cartref, sy'n cael eu casglu unwaith bob pythefnos.

Fodd bynnag, mewn achosion ble nad yw cleifion yn teimlo bod modd rheoli'r gwastraff fel hyn byddwn ni'n cynnig yr opsiynau canlynol:

Gwastraff Anymataliaeth

  • Mae modd i chi gofrestru ar gyfer y Cynllun Ailgylchu Anymataliaeth wythnosol.
  • Dyma ble mae modd trefnu casgliadau gan Wasanaeth Cewynnau/Anymataliaeth y Cyngor.
  • Bydd gwastraff yn cael ei gasglu mewn bag porffor.

Gwastraff stoma, cathetr/colostomi.

  • Cysylltwch â'r Bwrdd Iechyd er mwyn trefnu casgliadau.
  • Mae modd gwneud hyn drwy ffonio Desg Cymorth Cyfleusterau Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf ar 01685 728688.
  • Bydd gwastraff yn cael ei gasglu mewn bag melyn/du streipïog – neu 'tiger bag'.

Dydy'r Cyngor DDIM yn casglu thermomedrau, tabledi, cynnyrch fferyllol ac anadlwyr asthma diangen. Rhaid dychwelyd yr eitemau yma i'ch fferyllydd lleol.

Mae'r newidiadau yma'n cael eu gwneud er mwyn sicrhau bod y gwasanaeth casglu gwastraff clinigol yn cael ei gynnig mewn modd sy'n gost effeithlon ac sy'n cydymffurfio â chanllawiau Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) a'r Adran Iechyd.

Ar ôl 1 Rhagfyr 2017, bydd angen i gysylltu â Desg Cymorth Cyfleusterau Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf os ydych chi angen trefnu casgliad gwastraff clinigol ar gyfer unrhyw wastraff sydd mewn bag oren, bocs offer miniog melyn, neu os oes gyda chi unrhyw ymholiadau sy'n ymwneud â'r gwasanaeth yma. Mae modd gwneud hyn drwy ffonio 01685 728688, dewiswch Opsiwn 2.

Am ragor o wybodaeth ynglŷn â'r trefniadau newydd yma ar gyfer casglu gwastraff clinigol, ewch i http://www.rctcbc.gov.uk/CY/Resident/BinsandRecycling/ClinicalWaste.aspx.

Wedi ei bostio ar 30/11/2017