Skip to main content

Teiars wedi'u taflu yn anghyfreithlon yn Nhrefforest - mae angen eich cymorth!

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn gofyn am gymorth y cyhoedd wrth i ni ymchwilio i dramgwyddau troseddol tipio diweddar yn ardal Trefforest.

Cafodd pentyrrau o deiars eu taflu yn anghyfreithlon dros yr ychydig fisoedd diwethaf, ar bedwar o wahanol achlysuron. Digwyddodd un ohonynt y llall yn eithaf cyflym yn ddiweddar. Mae'r Cyngor yn cymryd tramgwyddau troseddol tipio o ddifrif calon. Byddwn ni'n cymryd camau gweithredu pellach, os yw hynny'n addas, pan fo modd adnabod y drwgweithredwyr.

Cyflawnwyd y ddau dramgwydd troseddol mwyaf diweddar yn y lôn rhwng Gwyn Street a Birchwood Avenue, ac yn yr ardal a adweinir fel y Tipiau Gwynion, ger Dan-y-Bryn Road.

Mae'r Cyngor yn adolygu recordiadau teledu cylch cyfyng o'r ardaloedd hyn, ac yn ymchwilio i rai dan amheuaeth bosibl am y tramgwyddau troseddol hyn. Yn ogystal â hyn, rydym ni'n gofyn i aelodau o'r cyhoedd ddod atom ni os gwyddant pwy sy'n gyfrifol.

Nodwch fod modd ailgylchu teiars mewn ffordd gyfrifol ym mhob un o saith Ganolfan Ailgylchu Gymunedol (CACau) y Cyngor.

"Bydd y Cyngor yn ymchwilio i bob achos o dipio anghyfreithlon," meddai Nigel Wheeler, Cyfarwyddwr Materion y Priffyrdd a Gofal Strydoedd Cyngor Rhondda Cynon Taf  "Os oes modd adnabod troseddwr, fyddwn ni ddim yn oedi cyn cymryd camau gorfodi - can gynnwys cychwyn rheithdrefnau achosion Llys yn erbyn unigolion, os yw hynny'n addas.

"Bu nifer o ddigwyddiadau o dipio anghyfreithlon yn Nhrefforest yn ddiweddar, a phedwar yn ymwneud â thaflu teiars yn anghyfreithlon. Rydym ni'n ymchwilio i bob un ar hyn o bryd. Digwyddodd dau o'r rhain yn yr un wythnos yn ddiweddar. Mae'r tramgwyddau troseddol hyn yn ddifrifol iawn. Maent yn felltith ar yr amgylchedd, a bydd angen llawer o arian ac amser er mwyn delio â nhw.

"Bu modd i ni wylio ffilm teledu cylch cyfyng yn yr ardal, a chredwn ein bod wedi adnabod cerbyd fu'n cymryd rhan. Ar hyn o bryd, rydym ni'n ymchwilio i'r fater, gyda golwg ar ddechrau achos a rheithdrefnau troseddol.

"Hoffem annog unrhyw un a welodd rywbeth, neu a ŵyr pwy sy'n gyfrifol dros y digwyddiadau o dipio anghyfreithlon yn Nhrefforest i ddod atom ni a chynorthwyo ymchwiliadau'r Cyngor.”

Oes gennych chi unrhyw wybodaeth am y tramgwyddau troseddol yma? Galwch ni ar 01443 425067. Hoffech chi ragor o wybodaeth am ailgylchu yn Rhondda Cynon Taf - gan gynnwys yr hyn mae modd ei ailgylchu? Croeso i chi ymweld ag: http://www.rctcbc.gov.uk/CY/Resident/BinsandRecycling/BinsandRecycling.aspx.

Wedi ei bostio ar 29/11/17