Skip to main content

Gwaith i ddechrau ar Heol Ynyswen ym mis Awst

Bydd Cyngor Rhondda Cynon Taf yn cwblhau gwaith strwythurol angenrheidiol ar bont Heol Ynyswen, A4061 ac yn cwblhau gwaith ailwynebu yn rhan o fuddsoddiad cyfunol gwerth £220,000.

Bydd y gwaith i gryfhau'r bont ar Heol Ynyswen, sy'n agos i Orsaf Dân Treorci, yn cael ei wneud dros gyfnod o 12 wythnos ac yn dechrau yn gynnar ym mis Awst. Bydd angen gosod goleuadau dros dro ar y bont wrth i'r gwaith gael ei gwblhau.

Bydd y Cyngor hefyd yn cwblhau gwaith ailwynebu strwythurol sylweddol ar ran fwy o Heol Ynyswen, gan ddechrau ar y bont ac yn symud i'r gogledd tuag at Baglan Street. Bydd angen cau'r ffordd am bythefnos o ddydd Llun, 14 Awst, er mwyn gwneud hyn.

Bydd arwyddion ar y llwybr amgen sy'n mynd trwy Ystâd Ddiwydiannol Ynyswen a bydd safleoedd bws dros dro yn cael eu darparu. Noder - Bydd mynediad i gerbydau'r gwasanaethau brys a cherddwyr yn parhau.

Yn ystod y cyfnod pan fydd y ffordd ar gau, bydd gwasanaethau bws rif 120, 121 a 130 yn dilyn y llwybr amgen drwy Ystâd Ddiwydiannol Ynyswen. Ni fydd safleoedd bws ar bwys Dunraven Terrace ar hyd Heol Ynyswen, Gorsaf Ynyswen a Siop Payne ar gael yn ystod y cyfnod yma.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion y Priffyrdd: "Mae'r gwaith yma unwaith eto'n dangos bod y Cyngor yn blaenoriaethu gwella a diogelu priffyrdd y Fwrdeistref Sirol drwy gynllun #buddsoddiadRhCT.

"Mae'r ddau fuddsoddiad yma (£150,000, ar gyfer y gwaith strwythurol angenrheidiol ar y bont, a £70,000 ar gyfer y gwaith arwynebu) yn cynrychioli'r pecyn ariannu sylweddol sydd ar gael i wella'r ffordd yma, sy'n cael ei defnyddio'n aml gan fodurwyr sy'n teithio trwy Rondda Fawr."

Bydd y gwaith yn achosi ychydig o aflonyddwch yn lleol. Dyma pam byddwn ni'n cwblhau'r gwaith a chau'r ffordd yn ystod gwyliau'r haf. Bydd y ddau gynllun yn cael eu cwblhau ar yr un pryd er mwyn osgoi achosi gormod o aflonyddwch.

Wedi ei bostio ar 06/07/2017