Skip to main content

Trefniadau cerbydau a cherddwyr Canol Tref Tonypandy

Bydd Cyngor Rhondda Cynon Taf yn gwneud gwaith dichonoldeb cychwynnol ar yr ardal i gerddwyr yn unig o fewn Canol Tref Tonypandy, yn rhan o adolygiad ar drefniadau cerbydau a cherddwyr.

Yn ystod mis Mawrth, fe gyhoeddodd y Cyngor y byddai'r adolygiad yn cynnwys dewis i agor ardal i gerddwyr yn unig canol y dref i draffig mewn un cyfeiriad. Byddai'r newid potensial yn cyflwyno parth 20myh i gerbydau i gyfeiriad y gogledd yn unig, gyda mannau llwytho ac aros er mwyn cynorthwyo prynwyr.

Roedd Rhaglen Gyfalaf 2017/18 y Cyngor  yn cynnwys buddsoddi drwy'r rhaglen Gwneud Gwell Defnydd, er mwyn datblygu'r cynnig. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i waith dichonoldeb er mwyn sicrhau fod y rhwydwaith priffyrdd o fewn canol y dref yn darparu mynediad da a diogel i ymwelwyr.

"Yn gynharach eleni, dywedodd y Cyngor y byddai'n ymchwilio i'r trefniadau cyfredol yng Nghanol Tref Tonypandy ynglŷn â symudiadau cerddwyr a cherbydau," meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Priffyrdd.

"Mae sylwadau a wnaed gan Gynghorwyr, preswylwyr a masnachwyr lleol yn awgrymu y byddai'r newidiadau i drefniadau traffig yn darparu hwb i ganol y dref.

"Mae'r Cyngor wedi darparu arian, drwy'i Raglen Gyfalaf 2017/18, er mwyn datblygu'r cynnig yma, ac wedi ymrwymo i waith dichonoldeb cychwynnol i'w gynnal o fewn ardal i gerddwyr yn unig canol y dref.

"Mae'n dangos fod y Cyngor yn gwrando ar farn preswylwyr  a busnesau er mwyn ystyried sut y gellir gwneud gwelliannau o fewn cymunedau.

"Byddai unrhyw newidiadau arfaethedig yn amodol ar fod yn destun ymgynghoriad helaeth gyda masnachwyr a phrynwyr yn y misoedd a ddaw, cyn eu cyflwyno mewn blwyddyn ariannol yn y dyfodol."
Wedi ei bostio ar 28/07/17