Skip to main content

Gwaith ar Gylchfan Tonysguboriau - Cau'r gylchfan dros nos

Bydd gwaith arwynebu sy'n rhan o gynllun Cyngor Rhondda Cynon Taf gwerth miliynau o bunnoedd er mwyn gwella cylchfan Tonysguboriau yn cael ei gwblhau cyn bo hir.

Mae'r cynllun mawr, sydd wedi'i ariannu gan ddatblygwr ynghŷd â buddsoddiad gan y Cyngor drwy gynllun #buddsoddiadRhCT yn gwella dyluniad y gylchfan yn sylweddol. Bydd y gwaith hefyd yn cynyddu'r nifer o lonydd, cyflwyno goleuadau traffig ac yn gostwng y terfyn cyflymder i 40mya. 

Wrth i'r cynllun ddod i'w derfyn, bydd gwaith arwynebu'r ffordd yn dechrau ddydd Llun, 10 Gorffennaf. Bydd rhannau o'r gylchfan a'r ffyrdd dynesu yn cael eu harwynebu fesul un. Bydd angen cau'r gylchfan dros nos 12 gwaith dros y tair wythnos nesaf.

Efallai bydd amserlen y gwaith arfaethedig yma'n cael ei heffeithio gan nifer o ffactorau, gan gynnwys y tywydd.

Bydd y Cyngor yn defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol er mwyn rhoi gwybod am y newyddiondoweddaraf bob dydd, gan gynnwys manylion cau'r ffordd ar gyfer y noson ganlynol. Bydd hyn yn digwydd o ddiwrnod cyntaf y gwaith.

Bydd y gwaith yn cael ei gwblhau fel y ganlyn:

Rhan 1 - A4119, o'r gogledd a'r de (i'r ddau gyfeiriad)*

Bydd y ffordd ar gau yn y ddau gyfeiriad rhwng goleuadau traffig Tesco tua'r gogledd a ffordd fynediad siop Arthur Llewellyn Jenkins. Bydd llwybr amgen ar gael rhwng goleuadau traffig Tonysguboriau, trwy Ganol Tref Tonyguboriau a Cowbridge Road. Bydd modurwyr yn ailymuno â'r A4119 ar bwys Corner Park. Dylai modurwyr sy'n teithio o'r cyfeiriad arall defnyddio'r llwybr amgen yn y drefn wrthdro.

Rhan 2 - A4119, o'r gogledd (yn effeithio ar fodurwyr sy'n teithio tua'r gogledd yn unig)

Bydd y ffordd ar gau rhwng cylchfan Tonysguboriau a goleuadau traffig Tesco, tua'r gogledd yn unig. Bydd traffig yn cael ei ddargyfeirio ar hyd yr A473, Lanelay Road a Talbot Road. Byddwch chi'n ailymuno â'r A4119 ar bwys goleuadau traffig Talbot Road.

Rhan 3 - A4119, o'r gogledd (yn effeithio ar fodurwyr sy'n teithio tua'r de yn unig)

Bydd y ffordd ar gau rhwng goleuadau traffig Tesco a chylchfan Tonysguboriau, tua'r de yn unig. Bydd traffig yn cael ei ddargyfeirio ar hyd Talbot Road, Lanelay Road a'r A473. Byddwch chi'n ailymuno â'r A4119 ar bwys cylchfan Tonysguboriau.

Rhan 4 - A4119, o'r de (yn effeithio ar fodurwyr sy'n teithio tua'r de yn unig)

Bydd y ffordd ar gau rhwng cylchfan Tonysguboriau a ffordd fynediad siop Arthur Llewellyn Jenkins, tua'r de yn unig. Bydd traffig yn cael ei ddargyfeirio ar hyd yr A473, Cowbridge Road, Heol Meisgyn a Ffordd yr Ysgol. Byddwch chi'n ailymuno â'r A4119 ar bwys Corner Park.

Rhan 5 - A4119, o'r de (yn effeithio ar fodurwyr sy'n teithio tua'r gogledd yn unig)*

Bydd y ffordd ar gau rhwng ffordd fynediad siop Arthur Llewellyn Jenkins a chylchfan Tonysguboriau, tua'r gogledd yn unig. Bydd traffig yn cael ei ddargyfeirio ar hyd Ffordd yr Ysgol, Heol Meisgyn, Cowbridge Road a'r A473. Byddwch chi'n ailymuno â'r A4119 ar bwys cylchfan Tonysguboriau.

Rhan 6 - A474, o'r gorllewin (yn y ddau gyfeiriad)

Bydd y ffordd ar gau rhwng cylchfan Tonysguboriau a chylchfan McDonald's, yn y ddau gyfeiriad. Bydd traffig yn cael ei ddargyfeirio ar hyd yr A4119 tua'r de, Ffordd yr Ysgol, Heol Meisgyn, Cowbridge Road a'r A473. Dylai modurwyr sy'n teithio o'r cyfeiriad arall defnyddio'r llwybr amgen yn y drefn wrthdro.

*Nodwch, wrth i'r gwaith yn Rhannau 1 a 5 gael ei gwblhau, bydd modd cael mynediad at Mwyndy, gan gynnwys The Barn, drwy Ffordd Cefn-Yr-Hendy a'r ffordd sy'n cysylltu â'r A4119, sy'n mynd heibio Bets Garage.

Bydd y ffyrdd yma ar gau rhwng 8pm a 6am er mwyn osgoi gormod o aflonyddwch. Bydd gan bob un o'r llwybrau amgen arwyddion clir trwy gydol y nos.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion y Priffyrdd: "Bydd y cynllun mawr yma'n gwella llif traffig sy'n teithio tua'r gogledd/de rhwng Cwm Rhondda a Chymoedd Trelái a'r M4. Mae'r ffordd yma'n gweithredu fel tagfa i fodurwyr yn ystod y cyfnodau mwyaf prysur. 

"Yn dilyn cynnydd arbennig y prosiect, rydyn ni'n rhagweld bydd pob dim wedi'i gwblhau erbyn canol yr haf. Mae gwaith arwynebu'r gylchfan yn un o gamau olaf y cynllun. Tra bydd y gwaith yma'n achosi aflonyddwch, bydd y Cyngor yn gweithio gyda chontractwyr er mwyn sicrhau ein bod ni'n osgoi achosi gormod o aflonyddwch.

"Hoffwn i ddiolch ymlaen llaw i breswylwyr am eu cydweithrediad wrth i ni gwblhau'r gwaith yma."
Wedi ei bostio ar 07/07/17