Skip to main content

Sialens Ddarllen yr Haf

Mae Llyfrgelloedd ar hyd a lled Rhondda Cynon Taf yn gweithio ar y cyd er mwyn lansio Sialens Ddarllen yr Haf 2017. 

Mae'r Llyfrgelloedd yn annog plant i ddilyn esiampl rhieni a chynhalwyr drwy fynd i'r llyfrgell leol a darllen dros wyliau'r haf. 

Y bwriad yw cael plant rhwng 4 ac 11 oed i ddarllen chwe llyfr yn rhan o Sialens Darllen yr Haf Anifail – Ysbiwyr yn ystod gwyliau'r haf. Mae sgiliau llythrennedd plant yn tueddu gwaethygu yn ystod y cyfnod yma. 

Thema'r flwyddyn yma ywAnifail – Ysbiwyr.Mae'r thema yma wedi'i seilio ar dîm o anifeiliaid clyfar sy'n ceisio datrys achos gyda chymorth eu ffrindiau. 

Tony Ross, y darlunydd llwyddiannus a greoedd gyfres Little Princess ac a ddarluniodd gyfres Horrid Henry gan Francesca Simon a llyfrau David Walliams, sydd wedi creu'r darluniau unigryw eleni.

I fod yn rhan o Sialens Anifail – Ysbiwyr, ewch â'ch plant i'r llyfrgell leol. Yno, byddan nhw'n derbyn ffolder i gadw cofnod o'u taith darllen.

Rhaid i'r plant darllen o leiaf chwe llyfr dros wyliau'r haf er mwyn casglu'r sticeri a fydd yn eu helpu nhw i ddatrys y cliwiau a helpu'r Anifail Ysbiwyr i ddeall beth sydd wedi bod yn digwydd!

Mae Sialens Ddarllen yr Haf 2017 Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi cael ei lansio yn Llyfrgell Aberdâr. Bydd y cynllun yn parhau tan fis Medi.

Mae rhaglen llawn achlysuron a gweithgareddau ar gael i deuluoedd yn llyfrgelloedd Rhondda Cynon Taf dros yr haf er mwyn dathlu'r Sialens Ddarllen yma. Cysylltwch â'ch llyfrgell leol am ragor o wybodaeth am gymryd rhan. 

Meddai'r Cynghorydd Joy Rosser, Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg a Dysgu Gydol Oes, gyda chyfrifoldeb ar gyfer Llyfrgelloedd: "Mae byd cyffrous newydd yn disgwyl ymwelwyr llyfrgelloedd y Fwrdeistref Sirol. Mae gennym ni lyfrau sy'n addas ar gyfer plant o bob oedran.

"Mae Sialens Darllen yr Haf yn fenter wych sy'n annog pobl ifainc i ddarllen dros wyliau'r haf."

Cymerodd dros 1,000 o blant ran yn Sialens Darllen yr Haf Rhondda Cynon Taf llynedd.

Mae 13 o lyfrgelloedd ar draws y Fwrdeistref Sirol. Galwch heibio i'ch llyfrgell leol am ragor o wybodaeth ynglŷn â Sialens Ddarllen yr Haf

Wedi ei bostio ar 02/08/2017