Skip to main content

Man croesi diogel ar Ystad Ddiwydiannol Trefforest

Bydd Cyngor Rhondda Cynon Taf yn sefydlu croesfan ddiogel ar safle prysur Ystad Ddiwydiannol Trefforest diolch i fuddsoddiad sylweddol ar y cyd â Phrifysgol De Cymru.

Bydd y buddsoddiad o £150,000 yn cael ei rannu'n hanner rhwng y Cyngor a'r Brifysgol ac yn sicrhau y bydd croesfan Toucan yn cael ei gosod ar Main Avenue (A4054), ger Parc Chwaraeon Prifysgol De Cymru.  Bydd y groesfan yn cael ei gosod rhwng cyffordd y Parc Chwaraeon a Powys Road.

Bydd goleuadau traffig yn cael eu sefydlu ar Main Avenue er mwyn sicrhau man croesi diogel ar gyfer cerddwyr a seiclwyr rhwng y brif ffordd a'r ystâd ddiwydiannol, mewn ardal sy'n cael ei gwasanaethu gan orsaf drenau Ystad Ddiwydiannol Trefforest.

Bydd y gwaith yn cychwyn ddydd Llun, 24 Gorffennaf ac yn para tua 6 wythnos. 

Bydd llif traffig dwyffordd yn parhau yn ystod y gwaith. Bydd unrhyw drefniadau dros dro i reoli'r traffig yn cael eu gweithredu y tu allan i gyfnodau prysur er mwyn lleihau amhariadau.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion y Priffyrdd: "Bydd y buddsoddiad ar y cyd rhwng y Cyngor a Phrifysgol De Cymru yn sicrhau croesfan ddiogel ar gyfer cerddwyr a seiclwyr ar safle prysur Ystad Ddiwydiannol Trefforest, sy'n gartref i nifer o fusnesau lleol, y parc chwaraeon a'r orsaf drenau.

"Mae buddsoddiad £75,000 y Cyngor o'r rhaglen 'Defnydd Gwell' yn dangos bod gwella'r priffyrdd yn flaenoriaeth i ni. Mae'r flaenoriaeth wedi codi dro ar ôl tro o fewn ein cynllun £200m ehangach #buddsoddiadRhCT.

"Bydd y groesfan yn cael ei gosod mewn man addas a fydd yn galluogi myfyrwyr sydd wedi teithio ar y trên i gael mynediad diogel i'r parc chwaraeon"

Wedi ei bostio ar 24/07/17