Skip to main content

Siop Ail-ddefnyddio Y Sied yn agor yng Nghanolfan Ailgylchu Gymunedol Llantrisant

Mae modd i breswylwyr sy'n dwlu ar fargen alw heibio i siop ail-ddefnyddio arloesol yng Nghanolfan Ailgylchu Gymunedol Llantrisant. Bydd eitemau a fyddai wedi mynd i'r safle tirlenwi fel arall yn cael eu gwerthu yno.

Cafodd siop Y Sied ei hagor gan Terry Walton, y garddwr o fri sydd ei hun o Rondda Cynon Taf ac sy'n cyfrannu'n aml at sioeau ar BBC Radio 2. Torrodd Mr Walton ruban gyda siswrn garddio er mwyn dathlu agor y siop ddydd Llun, 26 Mehefin.

Mae'r siop yn rhoi cyfle i breswylwyr brynu eitemau sy'n cael eu gadael gan aelodau'r cyhoedd yng Nghanolfan Ailgylchu Gymunedol Llantrisant. Bydd y siop yn adnewyddu eitemau megis llyfrau, teganau, beiciau, llestri, addurniadau, dodrefn a llawer o eitemau eraill sydd wedi cael eu taflu gan aelodau'r cyhoedd. Fore Llun, roedd silffoedd a'r llawr siop yn llawn eitemau sydd wedi cael eu casglu dros y pythefnos diwethaf.

Ar ôl i weithwyr a gwirfoddolwyr Canolfan Ailgylchu Gymunedol Llantrisant wirio bod yr eitemau yn ddiogel ac mewn cyflwr da, cân nhw eu hail-werthu. Mae'r cynllun wedi sefydlu dwy swydd barhaol newydd.

Bydd y cynllun yn golygu fydd nifer sylweddol o eitemau ddim yn mynd i'r safle tirlenwi. Mae hyn yn ychwanegu at y momentwm sydd wedi cael ei greu'n barod gan y Cyngor er mwyn gwella cyfraddau ailgylchu yn yr ardal. Yn ystod mis Mai, cadarnhaodd Llywodraeth Cymru fod 64% o wastraff Rhondda Cynon Taf wedi cael ei ailgylchu, y ganran uchaf erioed yn y Fwrdeistref Sirol. Golyga hyn fod gweithgarwch ailgylchu'r ardal yn uwch na'r cyfartaledd yng Nghymru.

Roedd masgot ailgylchu y Cyngor, Rhys Cycle, yn ogystal â Great Uncle Bulgaria o The Wombles, a oedd yn falch iawn bod Y Sied yn gwneud defnydd da o bethau y deuir o hyd iddyn nhw, yno i ddathlu'r achlysur.

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden: "Mae'r siop yn edrych yn wych heddiw, gyda'r holl eitemau yma sydd wedi cael eu hachub rhag mynd i'r safle tirlenwi ar werth. Llongyfarchiadau i bawb sydd wedi gweithio'n galed i wireddu'r posibilrwydd yma, gan gynnwys ein partner Wastesavers. Rydw i'n hyderus iawn bydd Y Sied yn llwyddiant mawr nawr ac yn y dyfodol.

"Mae ein hymdrechion yn gwneud gwahaniaeth – ein cyfradd ailgylchu yw 64.49% ar hyn o bryd. Targed Llywodraeth Cymru yw 58%. Rydw i'n hyderus byddwn ni'n bwrw'r targed o 70% erbyn 2024/25 os ydyn ni'n parhau gyda'r gwaith caled ac yn meddwl am ffyrdd eraill o ailgylchu.

Meddai Penny Goodwin, Prif Swyddog Gweithredol Wastesavers: "Rydyn ni'n gyffrous iawn i fod yn rhan o'r cynllun arloesol yma yn Rhondda Cynon Taf. Mae'r cynllun yma yng nghalon y broses o gael gwared ar wastraff. Rydyn ni eisiau atal cymaint o eitemau ag sy'n bosib rhag mynd i'r safle tirlenwi a'u gwerthu nhw yn y siop.

"Bydd Y Sied ar agor rhwng 10am a 6pm bob dydd, ac rydyn ni'n hyderus iawn y bydd yn mynd o nerth i nerth. Dywedwch wrth eich teulu a'ch ffrindiau amdanon ni – rydyn ni angen i bawb wybod am y siop a'r hyn rydyn ni'n ei wneud yma yn Llantrisant.

Ychwanegodd Terry Walton: "Rydw i yn fy seithfed nef yma, wedi f'amgylchynu gan ddeunyddiau sgrap! Mae nifer o'r offer sydd gen i ar fy lotment wedi'u prynu'n ail law – roedd fy nhŷ gwydr yn berchen i rywun arall cyn i mi ei ddefnyddio, ac mae fy nghafn dŵr wedi'i greu o hen gasgen ddiwydiannol.

"Mae eitemau sy'n wastraff i rai pobl yn aur i rywun arall. Mae'r siop yn edrych yn wych – rhaid i fi gadw fy nwylo yn fy mhocedi fel nad ydw i'n prynu unrhyw beth arall! Mae'n bleser bod yma i agor Y Sied yn swyddogol."

Wedi ei bostio ar 05/07/2017