Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi dechrau gwaith ailadeiladu ar wal gynnal priffordd yn Ynysangharad Road, Pontypridd.
Roedd darn o'r wal gynnal wedi disgyn ond, diolch i fuddsoddiad o £60,000, bydd y Cyngor yn chwalu'r gweddill a'i hailadeiladu. Mae'r Cyngor wedi gosod ffens o amgylch yr ardal a effeithiwyd o ran mesur diogelwch, cyn i'r gwaith ailadeiladu gael ei gyflawni.
Dechreuodd y gwaith ar Ddydd Llun, 10fed Gorffennaf, a bydd yn parhau am dua phum wythnos. Bydd rheoli traffig dros dro mewn grym dros darn bychan o Ynysangharad Road yn ystod y gwaith, drwy reolaeth arwyddion traffig.
"Bellach, mae gwaith ailadeiladu ar waith yn Ynysangharad Road, diolch i fuddsoddiad o £60,000," meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet sydd â chyfrifoldeb am y Priffyrdd "Bydd y Cyngor yn chwalu'r wal gynnal a ddisgynnodd, ac yn ei amnewid."
"Rwy'n siŵr y bydd preswylwyr lleol yn croesawu'r prosiect, sydd i fod i gael ei gwblhau yn ddiweddarach yr haf yma. Dengys hyn unwaith eto fod y Cyngor yn barod i fuddsoddi mewn trwsio a gwella ei briffyrdd fel mater o flaenoriaeth.
"Hoffwn i ddiolch i'r preswylwyr lleol am eu cydweithrediad yn ystod y gwaith."
Wedi ei bostio ar 24/07/2017