Skip to main content

Preswylwyr i dalu miloedd am droseddau gwastraff

Yn dilyn erlyniadau llwyddiannus gan Gyngor Rhondda Cynon Taf, rhaid i dri phreswylydd talu dirwy gyfunol gwerth mwy na £3,600.

Mewn cais i wneud y Fwrdeistref Sirol yn ardal lân a gwyrdd i fyw ynddi, mae'r Cyngor wedi rhoi pen ar bobl sy'n taflu sbwriel a thipio'n anghyfreithlon yn ddiweddar. Dechreuodd yr ymgyrch gyda'r cwestiwn 'Pwy wnaeth e?' - ble roedd y lluniau, a gymerwyd gan swyddogion gorfodi, o bobl roedd y Cyngor eisiau siarad â nhw mewn perthynas â throseddau, yn cael eu postio ar-lein.

Dangosodd ffigyrau a gafodd eu cyhoeddi ym mis Mai 2017 bod y Cyngor wedi ailgylchu 64% o'i wastraff. Mae hyn yn record ar gyfer yr Awdurdod Lleol ac yn golygu ein bod ni'n uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol a tharged Llywodraeth Cymru o 58% ar gyfer y flwyddyn 2016-17. Tra bod nifer fawr o breswylwyr yn ymateb i'r her, mae rhai pobl yn parhau i gyflawni troseddau  gwastraff.

Cafodd Gareth George o Hopkin Street, Treherbert, ei orchymyn i dalu o fwy na £1,000 am dipio anghyfreithlon, ar ôl iddo gael ei dal gan gamera cudd. Roedd y darn o ffilm yn dangos dyn yn cario dau fag llawn caniau cwrw gwag ar ben Heol y Fynwent yn Nhreorci ar 7 Hydref, 2016. Mae'r ardal yma'n ddrwg-enwog am dipio anghyfreithlon.

Ymddangosodd Mr George yn Llys Ynadon Merthyr Tudful, dydd Mercher, 21 Mehefin. Plediodd yn euog am dipio anghyfreithlon dan Adran 33 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990. Cafodd ddirwy o £250 a chafodd ei orchymyn i dalu tâl ychwanegol o £30 i'r dioddefwr a chostau gwerth £793.

Cafodd Marc Anthony Decaro, o Clos Heulwen, Ffynnon Taf, ei orchymyn i dalu mwy na £1,600 am drosedd tipio anghyfreithlon ar ôl i Swyddog y Cyngor ddod o hyd i dri sach adeiladwr masnachol mewn encilfa ar hyd Heol Eglwysilan, Nantgarw, ar 15 Medi, 2016. Roedd y sachau yn cynnwys gwastraff a oedd yn berchen i Mr Decaro. Daeth y Cyngor o hyd i ddau sach arall gerllaw.

Daeth swyddog y Cyngor o hyd i'r gwastraff ar hyd Heol Eglwysilan yn Nantgarw

Mewn cyfweliad gyda'r swyddogion, cyfaddefodd Mr Decaro ei fod wedi talu unigolyn i gael gwared â gwastraff masnachol ei fusnes ond doedd Mr Decaro ddim wedi gwirio os oedd gan y person yma hawl i gludo gwastraff.

Ymddangosodd Mr Decaro yn Llys Ynadon Merthyr Tudful, ddydd Mercher, 21 Mehefin. Plediodd yn euog am Fethu i Reoli Gwastraff dan Adran 34 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990. Cafodd dirwy o £1,000 a chafodd ei orchymyn i dalu tâl ychwanegol o £100 i'r dioddefwr a chostau gwerth £548.

Cafodd Nicholas Baldwin o Glenbrook, Glenboi yn Aberpennar, ei orchymyn i dalu mwy na £900 ar ôl methu rheoli gwastraff ei eiddo.

Ar 16 Medi, 2016, daeth swyddog y Cyngor o hyd i 10 bag du wedi'u gadael ar bwys y fynedfa i'r goedwig ar Ffordd Llanwonno rhwng Aberpennar ac Ynys-y-bŵl.  Roedd y bagiau yn cynnwys carped a thystiolaeth eu bod nhw wedi dod o gyfeiriad yn Abercwmboi, a oedd yn berchen i Mr Baldwin.

Mewn cyfweliad gyda'r swyddogion, cyfaddefodd Mr Baldwin ei fod wedi talu unigolyn mewn fan i fynd â'r gwastraff i ffwrdd o'r eiddo. Doedd Mr Baldwin ddim wedi gwirio os oes gan y dyn hawl i gludo gwastraff.

Ymddangosodd Mr Baldwin yn Llys Ynadon Merthyr Tudful, ddydd Mercher, 21 Mehefin. Plediodd yn euog am Fethu i Reoli Gwastraff dan Adran 34 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990. Cafodd ddirwy o £350 a chafodd ei orchymyn i dalu tâl ychwanegol o £33 i'r dioddefwyr a chostau gwerth £548.

Meddai Nigel Wheeler, Cyfarwyddwr Gwasanaethau'r Priffyrdd a Gofal y Strydoedd ar gyfer Cyngor Rhondda Cynon Taf: "Mae'r erlyniadau llwyddiannus yma'n cynnwys preswylwyr o Gwm Rhondda, Cwm Cynon a Thaf-Elái ac yn rhoi neges glir iawn i bobl sy'n meddwl bod troseddau gwastraff yn dderbyniol.

"Roedd dau achos yn esiamplau o breswylwyr yn talu trydydd parti i gael gwared â gwastraff ar eu rhan nhw, heb wirio a oedd gan y person yma hawl i gludo gwastraff. Cafodd y preswylydd arall ei ddal yn y weithred gan gamera cudd. Cafodd y camera ei osod gan y Cyngor mewn ardal sy'n ddrwg-enwog am dipio anghyfreithlon.

"Mae mwy o bobl yn ymateb i her ailgylchu'r Cyngor, sydd wedi cyfrannu at lwyddiant y Fwrdeistref Sirol o osod record ailgylchu yn 2016. Fodd bynnag, mae yna rai bobl sydd ddim yn ymddwyn yn gyfrifol. Mae'r erlyniadau yma'n pwysleisio agwedd llym y Cyngor tuag at droseddau gwastraff."

Wedi ei bostio ar 07/07/17