Skip to main content

Cofio Robert Bye, Croes Fictoria

Cynhaliwyd achlysur ym Mharc Coffa Ynysangharad, Pontypridd ar 30ain Gorffennaf er mwyn nodi canmlwyddiant arwriaeth Robert Bye, Croes Fictoria, yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. 

Ymunodd aelodau o'r teulu a'u gwahoddedigion â'r Gwarchodlu Cymreig ar gyfer achlysur coffáu digwyddiad 100 o flynyddoedd yn ôl. Ymhlith y rheiny a osododd dorch flodau er cof amdano roedd y Cynghorydd Margaret Tegg, Maer Rhondda Cynon Taf. 

Yn Rhingyll yn y Gwarchodlu Cymreig, ganed Robert Bye ym Mhontypridd, gan symud i Benrhiwceibr i fyw yn ddiweddarach. Enillodd ef Groes Fictoria ym mis Gorffennaf 1917, ar ôl iddo amlygu dewrder a dawn arweiniol syfrdanol yn Nhrydedd Frwydr Ieper, yng Ngwlad Belg.  

Mae'r Gwarchodlu Cymreig eisoes wedi cael derbyn Rhyddfraint Rhondda Cynon Taf, a bu'r Gatrawd yn anrhydeddu un o'i meibion ei hun yn ystod dathliad coffáu dwys am hanner dydd ar Ddydd Sul, 30ain Gorffennaf. 

Daeth y cyhoedd hefyd i'r achlysur ym Mharc Coffa Ynysangharad, Pontypridd (sydd hefyd yn gartref i Lido Ponty, Lido Cenedlaethol Cymru) i ymuno yn y dathliadau coffáu.

Mae carreg balmant er cof am Robert Bye, Croes Fictoria, eisoes yn sefyll yn y Parc, yn destun balchder ac yn ganolbwynt i'r gwasanaeth dros y penwythnos.

"Parhau y mae dathliadau coffáu'r Rhyfel Byd Cyntaf bedwar ban byd," meddai'r Cynghorydd Maureen Webber, Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf," ac mae'n weddus fod un o enillwyr Croes Fictoria yn cael ei gofio ym mro'i febyd am ei wrhydri ar faes y gad.

"Roedd balchder teulu Robert Bye, Croes Fictoria, yn amlwg wrth iddynt gymryd rhan yn y dathliadau coffáu. Mae pobl Rhondda Cynon Taf yn rhannu'r balchder hwnnw wrth i ni gofio bywyd eu hynafiad, a'i ymroddiad i wasanaeth.”

Canlyniad gwrhydri syfrdanol Robert Bye yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf oedd iddo ennill Croes Fictoria am ddewrder. 

"Hoffwn i ddiolch i bawb a ddaeth i wylio," meddai'r Cyrnol T. C. S. Bonas, Dirprwy Catrawd y Gwarchodlu Cymreig "ac i fod yn rhan o'n diwrnod arbennig ni."

"Rydym ni yn y Gwarchodlu Cymreig, fel Rhyddfreinwyr balch eich Bwrdeistref Sirol, wastad wrth ein bodd yn ymweld â Rhondda Cynon Taf. Profiad arbennig y tro hwn oedd dod i dref Pontypridd er mwyn coffáu bywyd y Rhingyll Robert Bye, Croes Fictoria. Mae'r gŵr hwn yn gymaint o ysbrydoliaeth heddiw ag y bu i genedlaethau o filwyr y Gwarchodlu Cymreig."

Bu'r Rhingyll Robert Bye, Croes Fictoria, yn gwasanaethu yn yr Ail Ryfel Byd hefyd, fel Uwch Ringyll yng Nghatrawd Swydd Nottingham a Swydd Derby, ond bu raid iddo adael yn sgîl afiechyd. Mawr oedd y golled pan fu farw ar 23ain Awst 1962, yn 72 oed.

Wedi ei bostio ar 02/08/2017