Skip to main content

Ffordd Mynydd Y Maerdy - trefniadau bws dros dro

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf ar y cyd â'r gweithredwr bysiau, Stagecoach, wedi penderfynu ar drefniadau ar gyfer gwasanaeth bws 172 rhwng Aberdâr a Phorthcawl pan fydd Ffordd Mynydd Y Maerdy ar gau.

Bydd amserlen y teithiau sy'n rhan o'r gwasanaeth 172 rhwng Y Maerdy a Phorthcawl yn newid ychydig. Bydd y newidiadau yma'n effeithio ar y gwasanaeth o ddydd Llun, 10 Gorffennaf.

Bydd gwasanaeth gwennol dan rif 172C yn gweithredu yn ôl ac ymlaen o Orsaf Fysiau Aberdâr. Bydd y gwasanaeth yma'n ymuno â'r gwasanaeth 172 yng Ngorsaf Fysiau Tonypandy ac yn teithio yn ôl ac ymlaen o Donyrefail, Pen-y-bont ar Ogwr a  Phorthcawl, yn ogystal â Pen-rhys, Glynrhedynog a'r Maerdy.

Bydd y gwasanaeth yn gadael Gorsaf Fysiau Aberdâr yn gynharach, a bydd y teithiau'n cymryd yn hirach. Bydd gwasanaethau 172 ac 172C, i'r ddau gyfeiriad, yn aros yng Ngorsaf Fysiau Tonypandy er mwyn sicrhau bod pawb yn dal y bws cywir.

Bydd y trefniadau o ran y tocynnau yn golygu y bydd cwsmeriaid sy'n cael eu heffeithio yn parhau i dalu'r pris arferol am eu tocyn ar gyfer eu taith.

Bydd y Cyngor yn cwblhau gwaith sefydlogi angenrheidiol ar y ffordd o 10 Gorffennaf. Bydd angen cau'r ffordd yn gyfan gwbl am 24 awr y dydd. Bydd y ffordd yn ail-agor ym mis Medi.

Bydd y Cyngor yn cwblhau gwelliannau ychwanegol tra bydd y ffordd ar gau diolch i fuddsoddiad sylweddol drwy gynllun #buddsoddiadRhCT. Bydd y gwaith yma'n cynnwys rhoi wyneb newydd ar y ffordd, trwsio waliau cerrig sychion a gosod waliau newydd yn lle'r rhai hen, yn ogystal â gwaith draenio.

O ganlyniad i gais llwyddianus am Grant Diogelwch ar y Ffordd Llywodraeth Cymru, bydd y Cynllun hefyd yn cynnwys amrywiaeth o welliannau i ddiogelwch y ffordd. Bydd y Cyngor yn gosod marciau rhybudd a stydiau ffordd newydd, ac yn ail-farcio'r ffordd.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion y Priffyrdd: "Mae'r gwaith arfaethedig ar Ffordd Mynydd Y Maerdy'n angenrheidiol yn dilyn tirlithriad ym mis Rhagfyr 2015. Mae angen cau'r ffordd yn gyfan gwbl oherwydd y peiriannau mawr sydd eu hangen er mwyn cwblhau'r gwaith. Mae'r Cyngor wedi penderfynu cwblhau gwaith sylweddol pellach ar y ffordd drwy gynllun #buddsoddiadRhCT.

"Mae'r Cyngor wedi gweithio'n agos â Stagecoach er mwyn sicrhau bod pobl sy'n dibynnu ar wasanaeth 172 yn gallu parhau i'w ddefnyddio wrth i'r gwaith ar Ffordd Mynydd Y Maerdy gael ei gwblhau. Bydd bws gwennol o Aberdâr yn ymuno â'r gwasanaeth yn Nhonypandy.

"Bydd amserlenni dros dro gwasanaethau 172 ac 172C yn para drwy gydol cyfnod y gwaith, ac mae modd eu gweld nhw ar-lein."

Am ragor o wybodaeth am y gwasanaeth dros dro, cysylltwch ag Uned Trafnidiaeth Integredig y Cyngor drwy ffonio 01443 425001, neu wasanaeth Gwybodaeth Trafnidiaeth Gyhoeddus Traveline Cymru drwy ffonio 0800 464 0000.

Mae modd gweld amserlenni dros dro'r gwasanaethau yma ar-lein. Ewch i: https://www.cymraeg.traveline.cymru/problemau/698.

Wedi ei bostio ar 07/07/17