Skip to main content

Enillwyr Gwobrau Bro-garwyr Tra Mad 2017

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn falch o gyhoeddi enillwyr Bro-garwyr Tra Mad 2017. Mae'r bobl yma wedi cael eu gwobrwyo oherwydd eu hymrwymiad i wneud cymunedau RhCT yn lanach ac yn fwy gwyrdd.

Mae'r Gwobrau, sy'n dathlu'u pen-blwydd yn 9 oed eleni, yn talu teyrnged i arwyr amgylcheddol y Fwrdeistref Sirol. Cafodd 24 person eu gwahodd i gampws Coleg y Cymoedd, Nantgarw, ar gyfer seremoni gwobrwyo 2017, ddydd Mawrth, 4 Gorffennaf. Yn ystod y seremoni cafodd enwau'r wyth enillydd eu cyhoeddi. Mae'r rhestr o enillwyr isod.

Gofynnodd y Cyngor i chi enwebu'r bobl sy'n gweithio'n galed er mwyn cadw'r Fwrdeistref Sirol yn lân ac yn wyrdd; o bobl sy'n casglu sbwriel i hyrwyddwyr ailgylchu.

Ar ôl i'r broses enwebu ddod i ben ym mis Ebrill, aeth gweithwyr y Cyngor i ymweld â chystadleuwyr y rownd derfynol yn ystod mis Mai cyn i'r enillwyr gael eu dewis gan feirniaid annibynnol.

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden: "Llongyfarchiadau i bob un o'r 24 sydd yn y rownd derfynol, yn enwedig i'r enillwyr. Mae eu hymdrechion amgylcheddol yn gaffaeliad i'w cymunedau. Hoffwn i longyfarch Sarah Liney yn arbennig, a enillodd brif wobr y gystadleuaeth. Mae hi wedi gwneud gwahaniaeth enfawr ers sefydlu Wimbles Llanharan a Brynna. Enillodd y prosiect hwnnw wobr heddiw hefyd.

"Rydw i wedi mwynhau clywed am yr holl bethau mae'r bobl yma'n eu gwneud, boed hynny'n creu gemwaith o eitemau sy'n cael eu darganfod ar lwybrau natur, annog pobl i roi hen eitemau fyddai'n cael eu gwastraffu fel arall, neu addysgu pobl ifainc am bwysigrwydd ailgylchu. Nhw yw arwyr amgylcheddol ein cymunedau!

"Mae ymdrechion y bobl yma wedi gwneud gwahaniaeth mawr. Yn ddiweddar mae'r Cyngor wedi derbyn cadarnhad bod mwy na 64% o wastraff wedi cael ei ailgylchu yn ystod blwyddyn calendr 2016 - mae hyn yn record ar gyfer y sir. Rydyn ni'n parhau i fod yn uwch na chyrhaeddiad ar gyfartaledd y 22 Awdurdod Lleol yng Nghymru.

Enillwyr Gwobrau Bro-garwyr Tra Mad 2017

Hyrwyddwr Amgylcheddol y Gymuned a Phrif Enillydd Gwobrau Bro-garwyr Tra Mad 2017 - Sarah Liney

Aeth Sarah i gwrdd â Cadwch Gymru'n Daclus i weld beth oedd yn gallu cael ei wneud i wella problemau sbwriel yn ei hardal leol. Cafodd Wimbles Llanharan a Brynna ei sefydlu er mwyn cadw'r gymuned yn lân ac yn daclus, ac roedd Sarah yn rhan allweddol yn y gwaith o drefnu achlysuron y grŵp. Mae Sarah hefyd yn gwirfoddoli ar gyfer elusen Hedgehog Helpline sy'n gofalu am ddraenogod sy'n cael eu hachub.

Y Prosiect Amgylcheddol Mwyaf Arloesol - Samantha Williams, Prosiect Woodland to Wearable

Mae Samantha, sy'n fyfyrwraig ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd, yn ail-ddefnyddio deunyddiau gwastraff sy'n cael eu darganfod ar lwybrau natur, ac mae'n creu gemwaith unigryw ohonyn nhw. Cafodd Samantha o hyd i ddarn o wydr a darnau ceramig, ac aeth hi â nhw i weithdy'r brifysgol er mwyn iddyn nhw gael eu llathru ac er mwyn llyfnhau'r ymylon. Mae prosiect Samantha yn golygu bod y llwybrau natur yn fwy diogel ar gyfer ymwelwyr - ac mae'n ail-ddefnyddio gwastraff er mwyn creu celf mae modd ei gwisgo.

Yr Ymgyrch Amgylcheddol Orau mewn Ysgol - Ysgol Gynradd Mihangel Sant Eglwys Gatholig Rhufain

Cynhaliodd Pwyllgor Eco'r ysgol archwiliad ar finiau'r ysgol a threfnon nhw fod yr ysgol yn rhoi biniau newydd yn lle'r biniau ailgylchu sydd ar goll neu'r rhai sydd wedi cael eu difrodi. Sylwodd y plant fod disgyblion ifainc yr ysgol yn rhoi poteli llaeth yn y biniau cyffredinol, felly, cododd y Pwyllgor arian ar gyfer biniau ailgylchu newydd drwy werthu teganau a llyfrau. Sefydlodd y pwyllgor rota er mwyn helpu disgyblion iau'r ysgol i olchi'u poteli bob diwrnod.

Y Gymuned Fwyaf Taclus/Y Prosiect Cymunedol Gorau - Wimbles Llanharan a Brynna

Cafodd y grŵp cymunedol yma ei sefydlu er mwyn cadw'r gymuned leol yn daclus, yn lân ac yn glir o sbwriel. Mae'r grŵp yn codi ymwybyddiaeth o afiechydon ac anafiadau difrifol sy o bosibl yn datblygu os nad yw pobl yn codi baw cŵn. Mae'r grŵp hefyd yn gweithio gyda Chyngor Cymuned Llanharan a Cadwch Gymru'n Daclus er mwyn cynnal achlysuron casglu sbwriel - yn aml mae mwy na 100 o bobl yn cymryd rhan yn yr achlysur.

Menter Partneriaeth Amgylcheddol Orau - Y Sied: Wastesavers, RhCT ac Amgen Cymru

Mae Wastesavers wedi agor siop ail-ddefnyddio yng Nghanolfan Ailgylchu Gymunedol Llantrisant, mewn perthynas â'r Cyngor ac Amgen Cymru. Mae Y Sied yn gwerthu eitemau megis llyfrau, beiciau, llestri a dodrefn. Byddai'r holl bethau yma'n cael eu gwastraffu fel arall. Mae'r eitemau yn cael eu gwirio gan staff cyn iddyn nhw fynd ar werth i wneud yn siwr eu bod nhw'n addas ac yn ddiogel i'w defnyddio. 

Hyrwyddwr Amgylcheddol Ysgol (Disgybl) - Caryl-Anne Evans, Ysgol Gyfun Tonyrefail

Mae Caryl-Anne wedi bod yn aelod ymroddgar o Glwb Eco'r ysgol ers saith mlynedd ac mae wedi cymryd rhan mewn amrywiaeth o brosiectau amgylcheddol. Eleni, aeth Caryl-Anne ati i ofyn i ddisgyblion, rhieni ac athrawon roi unrhyw gemau neu deganau diangen, a fyddai'n mynd i safleoedd tirlenwi fel arall, i elusen. Anfonodd Caryl-Anne e-bost at staff yr ysgol a chyhoeddodd hi hysbysebion ar-lein. Yn ogystal â hyn, trefnodd hi i gasglu a storio'r eitemau.

Hyrwyddwr Amgylcheddol Ysgol (Athro) - Naomi Hughes, Ysgol Gynradd Treorci

Mae Naomi wedi gweithio'n galed i wella amgylchedd yr ysgol. Trefnodd hi sesiynau casglu sbwriel yn yr ysgol ac yn y gymuned, a chreodd hi gêm ailgylchu ble roedd rhaid i ddisgyblion ddosbarthu defnyddiau i'r biniau ailgylchu cywir. Sefydlodd hi olygfa ar lan y môr yn y dosbarth er mwyn dangos y peryglon sy'n wynebu'r amgylchedd ac anifeiliaid, mewn perthynas â sbwriel. Rhoddwyd bagiau sbwriel a chodwyr sbwriel i ddisgyblion er mwyn iddyn nhw gael gwared â'r gwastraff a oedd ar y tywod.

Tîm yr Awdurdod Lleol y Flwyddyn - Carfan Gorfodi Gofal y Strydoedd

Mae Carfan Gorfodi Gofal y Strydoedd y Cyngor yn codi ymwybyddiaeth ac yn darparu cymorth i breswylwyr. Mae'r Garfan yn gweithio gyda Charfan Gwasanaethau Gwastraff er mwyn lleihau gwastraff sy'n mynd i'r safle tirlenwi, annog ailgylchu a lleihau'r gwastraff sy'n cael ei adael ar y priffyrdd ar ôl casgliadau. Mae'r Garfan yn cynnal ymarferion galw heibio i dai trigolion ac yn rhoi llythyron drwy'r blwch llythyrau. Maen nhw hefyd wedi yn gosod 150 o finiau baw cŵn newydd a 200 o arwyddion baeddu cŵn ar draws RhCT.

Wedi ei bostio ar 04/07/17