Skip to main content

Lido Ponty yn croesawu 30,000 o ymwelwyr eleni

 

Daeth bron 30,000 i Lido Ponty mewn dim ond saith wythnos, wedi'u denu gan y dyfroedd cynnes, ymlaciol ac awyrgylch tebyg i lannau Môr y Canoldir. Mae pobl yn methu cael digon o Lido Ponty, boent yn byw yn Rhondda Cynon Taf neu ymhellach i ffwrdd.

Mae Lido Ponty ar agor o 7.30am ymlaen, pryd y daw nofwyr ben bore rheolaidd sy'n hoffi nofio lôn cyn y gwaith. Bydd yn cyflwyno Erobeg Dŵr hefyd, yn ogystal â'r Acwathlon blynyddol poblogaidd. Mae plant ysgol yn heidio i'r pwll nofio ar ôl eu gwersi er mwyn nofio a chael hwyl ar y teganau gwynt. Bydd teuluoedd yn gwneud diwrnod i'r brenin ohoni dros y penwythnos.

Mae Lido Ponty yn cynnig rhywbeth i bawb – £1 i oedolion, ac yn rhad ac am ddim ar gyfer plant. Nid oes rhyfedd fod pobl yn heidio yno saith diwrnod yr wythnos.

"Fe wyddem ni y byddai Lido Ponty yn llwyddiant mawr ysgubol ar ôl cwblhau'r gwaith adfer," meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf dros yr Amgylchedd a Hamdden "Bellach, mae'n mynd o nerth i nerth, ac rydym ni wrth ein bodd i gael croesawu bron 30,000 o ymwelwyr o bob oed yn ystod y saith wythnos y bu ar agor hyd yn hyn y tymor hwn.

"Mae ymweld â Lido Ponty ar ddiwrnod heulog fel mynd i dref wyliau ger Môr y Canoldir, diolch i'r gwaith adfer eithriadol a chydnaws ar nodweddion gwreiddiol y Lido o'r 1920au.

"Mae'r tri phwll nofio yn cael eu cynhesu hyd at 28 gradd. Gan hynny, byddwch chi'n dal i gael mwynhau Lido mewn tywydd gwael.

“Buom ni'n gweithio'n galed gyda'n partneriaid er mwyn cyflwyno nodwedd eithriadol yng nghalon Pontypridd. Roeddem ni am iddo fod yn hardd, a gwneud cyfiawnder â'r Lido gwreiddiol ac ag amgylchedd ehangach Parc Coffa Ynysangharad.

"Yn ogystal â hyn roeddem ni am iddo fod yn lle gwych i ymweld ag ef. Rydym ni wedi llwyddo, gan gynnig cyfleoedd ar gyfer nofio hamddenol, nofio cystadleuol, a hwyl i blant o bob oed yn ogystal â dosbarthiadau ffitrwydd a chadw'n heini.

"Diolch i Chwarae'r Lido cyfagos, a phrydferthwch Parc Coffa Ynysangharad, a thref Pontypridd, mae modd i rywun wneud diwrnod i'r brenin ohoni yn Lido Ponty! Mae miloedd o ymwelwyr o bob rhan o Rondda Cynon Taf a'r tu hwnt eisoes wedi gwneud hyn. Beth am ymuno â hwy, a chadw lle ar-lein nawr!”

Mae Lido Ponty wedi'i ddatblygu yn sgil prosiect adnewyddu gwerth £6.3 miliwn Cyngor Rhondda Cynon Taf, a diolch i gefnogaeth ariannol Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru, Cronfa Dreftadaeth y Loteri, a gwasanaeth Cadw.

Mae Lido Ponty ar agor bob dydd tan ddydd Sul, 10 Medi, o 7.30am tan 7.15pm.

Cofiwch 'hoffi' tudalen Lido Ponty ar Facebook a dilyn @LidoPonty ar Drydar am y newyddion a'r wybodaeth ddiweddaraf. Hefyd, ewch i www.lidoponty.co.uk

 

 

 

 

 

Wedi ei bostio ar 06/07/17