Skip to main content

Cynlluniau gwella'r priffyrdd 2017/18 - yr wybodaeth ddiweddaraf

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi gwneud cynnydd go lew yn ei raglen waith ar gyfer 2017/18 sy'n gweld atgyweiriadau a gwelliannau i'r ffyrdd ar draws y Fwrdeistref Sirol, ynghyd â gwaith i baratoi'r ffyrdd ar gyfer y dyfodol.

Mae Rhaglen Gyfalaf y Cyngor ar gyfer 2017/18 yn cynnwys buddsoddiad o £9.85 miliwn ar gyfer gwella'r priffyrdd. Bydd £3.129 miliwn o'r swm yn cael ei wario ar gynlluniau ffyrdd. Mae hyn yn cynnwys gwaith traddodiadol i osod wyneb newydd ar y ffyrdd, yn ogystal â meicroasffalt, trwsio tyllau/craciau a gwaith trin yr wyneb.

Ar gyfer y flwyddyn ariannol yma, mae 47 o gynlluniau gwaith traddodiadol i osod wyneb newydd ar y gweill. Ers i'r gwaith ddechrau ym mis Ebrill 2017, mae 39 o'r cynlluniau bellach wedi'u cwblhau. Ar hyn o bryd mae un cynllun mynd rhagddo, a saith arall ar fin cychwyn.

Dechreuodd y gwaith meicroasffalt ym mis Mehefin 2017, ac ers hynny mae 17 o'r cynlluniau wedi'u cwblhau, a thri chynllun arall ar y gweill ar gyfer mis Medi 2017. Bellach, mae'r rhaglenni trin yr wyneb a rhaglenni trwsio tyllau/craciau wedi'u cwblhau. 

Cafodd rhan o'r Cynllun Cyfalaf oedd buddsoddiadau ar wahân ar gyfer gwella goleuadau'r strydoedd (£250,000) ac adnewyddu'r troedffyrdd (£481,000).

Erbyn hyn, mae saith allan o'r wyth cynllun gwella goleuo'r stryd wedi'u cyflawni, ac un yn mynd rhagddo. Cynigwyd tri chynllun ychwanegol o fewn y gyllideb bresennol ar gyfer Pentre'r Eglwys, Y Groes-faen ac Efail Isaf.

Dechreuodd y gwaith adnewyddu'r troedffyrdd yn fwy diweddar, ac mae wyth wedi gorffen ac un yn mynd rhagddo. Mae yna 24 o raglenni eto i gychwyn.

Yn y cyfamser, cafodd pump o'r rhaglenni mwy i osod wyneb newydd  eu cwblhau. Roedd y rhain yn cynnwys Heol Mynydd y Rhigos, Heol Mynydd y Bwlch, Cylchfan Cyswllt Trebannog, Cylchfan Coed-elái a Chylchfannau Heol Talbot. Bydd y cynllun olaf ar Heol Mynydd y Maerdy yn digwydd yn hwyrach yn yr haf ar y cyd â'r prif waith sy'n cael ei wneud i sefydlogi'r ffordd.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion y Priffyrdd: "Mae'r cynnydd da yn parhau gyda'r rhaglenni 2017/18, sy'n cynnwys gwaith gwella i briffyrdd y Fwrdeistref Sirol. Mae'r gwaith yma'n cynnwys gwaith traddodiadol i osod wyneb newydd i raglenni gwella goleuadau'r strydoedd ac adnewyddu troedffyrdd.

“Drwy'r cynllun #buddsoddiadRhCT, mae'r Cyngor wedi dangos eto mai mater o flaenoriaeth yw gwella priffyrdd y Fwrdeistref Sirol, a'u paratoi ar gyfer y dyfodol.

“Cafodd hyn ei adlewyrchu yn y dyraniad sylweddol o £9.85 miliwn ar gyfer gwaith gwella'r priffyrdd yng Nghynllun Cyfalaf 2017/18. Mae rhagor o drigolion yn buddio o'r rhaglen tra bod y gwaith yn mynd rhagddo." 

Wedi ei bostio ar 24/07/2017