Skip to main content

Cynllun Hwb Cymunedol i Ganolfan Oriau Dydd y Santes Fair, Aberdâr

Cyn hir, bydd Aelodau'r Cabinet yn ystyried cynllun i drawsffurfio Canolfan Oriau Dydd y Santes Fair yn Aberdâr yn hwb cymunedol newydd, a fyddai'n cynnig ystod llawer ehangach o wasanaethau i bobl hŷn.

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn gweithio gydag elusen Age Connects Morgannwg (ACM), yr elusen leol i bobl hŷn, er mwyn ehangu'r ddarpariaeth yng Nghanolfan Oriau Dydd y Santes Fair a bydd y Cabinet yn ystyried y cynnig mewn cyfarfod ar 18fed Gorffennaf.

Mae adroddiad o flaen y cyfarfod yn argymell y dylai'r Cabinet gytuno fod elusen Age Connects Morgannwg ymgymryd â phroses ymgynghori, cyn paratoi cais Loteri Fawr am £1.1miliwn er mwyn ailddatblygu Canolfan y Santes Fair. Yn ogystal â hynny, mae'n argymell dod ag adroddiad i'r Cabinet yn ystod mis Medi 2017, pryd y bydd Aelodau yn trafod a ddylid caniatáu prydles am 99 mlynedd i elusen Age Connects Morgannwg drwy ddull RhCT gyda'n Gilydd.

Mae elusen Age Connects Morgannwg eisoes wedi cael grant Loteri Fawr o £48,000 er mwyn datblygu cynlluniau ar gyfer yr Hwb. Os yw'r cais am £1.1miliwn yn llwyddiannus, bydd y Cyngor yn trosglwyddo'r adeilad i elusen Age Connects Morgannwg drwy'r broses o drosglwyddo asedau cyfalaf.

"Fe allai'r prosiect yma drawsffurfio Canolfan Oriau Dydd y Santes Fair yn llwyr," meddai'r Cynghorydd Geraint Hopkins, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf dros Gwasanaethau Cymunedol Oedolion a Phlant "drwy ehangu yn gyfan gwbl y cynnig a'r cymorth i bobl hŷn sy'n defnyddio'r gwasanaeth pwysig yma."

“Os yw cais Age Connects Morgannwg am arian sylweddol yn llwyddiannus, byddai'r Cyngor yn trosglwyddo'r adeilad a'r safle drwy'r broses o drosglwyddo asedau cyfalaf - dull RhCT gyda'n Gilydd sydd wedi'i brofi'i hun yn llwyddiant eto ac eto. Drwy weithio gyda chymunedau a'r sector gwirfoddol, mae'r Cyngor yn gallu ystyried dull amgen darparu gwasanaethau a'r un pryd yn sicrhau eu dyfodol.

"Disgwylir penderfyniad ynghylch p'un a ganiateir arian y Loteri Fawr ai peidio yn ystod mis Chwefror 2018. O ganlyniad fe allai gwaith ar gynllun Cynon Linc fod yn mynd rhagddo cyn diwedd yr haf y flwyddyn nesaf.

Mae'r gwasanaethau sy'n cael eu cynnig yng Nghanolfan Oriau Dydd y Santes Fair ar hyn o bryd eisoed yn cael eu gwerthfawrogi. Amcan y cynnig yma yw adeiladu ar y ddarap[riaeth yma a chyflwyno ystod llawer ehangach o wasanaethau sy'n adlewyrchu anghenion a disgwyliadau preswylwyr lleol yn well.

"Cynnig anhygoel o uchelgeisiol yw hwn, y cyntaf o'i fath yng Nghymru. Fe allai drawsffurfio'r darpariaeth sy'n cael ei chynnig o'r lleoliad yma i gymuned ehangach Cwm Cynon."

Ar hyn o bryd, mae Canolfan Oriau Dydd y Santes Fair yn darparu gwasanaeth cinio i breswylwyr dros 50 oed. Yn ogystal â hynny, mae'n gartref i gegin gynhyrchu Pryd ar Glud, sy'n coginio a dosbarthu prydau  bwyd i bobl ym mhob rhan o Gwm Cynon.

'Cynon Linc’ fyddai enw'r hwb cymunedol. Byddai'n darparu gweithgarwch i bobl hŷn drwy gydol y dydd. Enghreifftiau o hyn fyddai celf a chrefft, dosbarthiadau addysgol, garddio, cyngherddau, a ffilmiau. Byddai ganddo ystafell synhwyraidd hefyd, i bobl â dementia, ochr yn ochr â chaffi dementia.

Byddai Cynon Linc yn cynnwys bistro menter gymdeithasol yn darparu prydau a byrbrydau iach. Yn ogystal â hynny, fe fyddai man cymunedol i grwpiau lleol ei logi, ochr yn ochr â neuadd i achlysuron.

Byddai'r adeilad yn gartref i brif swyddfa Age Connects Morgannwg fel bod modd i bobl gael defnyddio ei wasanaethau yn hawdd. Ymhlieth y rhain bydd Allgymorth Cymunedol, Cyfeillio, a tîm Gwybodaeth a Chyngor sy'n cynnig cyngor cyffredinol ac arbenigol ar gyfer pobl hŷn.

Câi darpariaeth gofal plant i hyd at 20 o blant hefyd.

Mae'n bosibl hefyd y byddai gofyn am ail-leoli'r gwasanaeth Pryd ar Glud sy'n gweithredu o Ganolfan Oriau Dydd y Santes Fair ar hyn o bryd.

Wedi ei bostio ar 13/07/2017