Skip to main content

Y Comedïwr Ed Byrne yn dod i RhCT

Bydd y Comedïwr Ed Byrne yn dod â'i daith Spoiler Alert i Rhondda Cynon Taf ym mis Ionawr. Rydyn ni'n rhagweld y bydd tocynnau'n gwerthu'n gyflym! 

Mae Ed yn feistr ar gomedi sylwadol ac wedi ymddangos ar y teledu nifer o weithiau gan gynnwys cyflwyno sioe Live At The Apollo. Mae Ed hefyd yn ymddangos yn aml ar banel Mock the Week a Have I Got News for You

Mae Ed Byrne, a fydd yn ymddangos yn Theatr y Parc a'r Dâr ym mis Ionawr, hefyd wedi bod ar raglen Graham Norton ac The One Show

Mae'r Comedïwr hefyd wedi perfformio ar nifer o sioeau eraill gan gynnwys Miranda Hart's Christmas Unwrapped. Bydd Ed hefyd yn ymddangos yng Ngŵyl Caeredin 2017 a Gŵyl Gomedi Greenwich. 

Mae Ed yn hoff iawn o gwisiau, ac mae rhai o uchafbwyntiau gyrfa Ed yn cynnwys cymryd rhan yn sioeau Celebrity Mastermind a Celebrity Pointless. Mae Ed hefyd yn cyfrannu'n aml at sioeau comedi a cherddoriaeth ar BBC Radio 2, Radio 4 a 6 Music. 

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd, Hamdden a Diwylliant: "Mae Ed Byrne yn gomedïwr talentog sydd yn ymddangos ar ein teledu'n aml. Rydyn ni'n falch iawn o groesawu'r comedïwr o fri i'n Fwrdeistref Sirol ni yn rhan o'i daith o gwmpas y DU. 

"Unwaith eto, mae'r ffaith ein bod ni'n denu enwau mawr o fyd comedi i'n theatrau ni yn glod i Rhondda Cynon Taf." 

Mae Ed Byrne yn dod â'i Sioe Spoiler Alert i Theatr y Parc a'r Dâr, Treorci, ddydd Sadwrn, 20 Ionawr (8pm). Pris tocyn yw £24, ac mae modd prynu tocyn o'r Swyddfa Docynnau drwy ffonio 03000 040 444 neu ewch i'r wefan www.rct-theatres.co.uk.

Wedi ei bostio ar 27/07/2017