Skip to main content

Canolfan Siopa Dyffryn Taf/Taff Vale yn Cyrraedd Carreg Filltir Arall

Cafodd cwmni Willmot Dixon ei benodi'n gontractwr er mwyn helpu i gyflwyno prosiect uchelgeisiol Canolfan Siopa Dyffryn Taf/Taff Vale.

Mae'r Cynghorydd Robert Bevan, Aelod o'r Cabinet ar faterion Menter, wedi disgrifio'r garreg filltir arwyddocaol yma fel tystiolaeth bellach fod y prosiect yn 'cael ei gyflwyno'.

Mae gwaith adeiladu i ddechrau ar y safle yn gynnar yn 2018 er mwyn sicrhau bod y prosiect wedi'i gwblhau yn 2019.

 

Penodi cwmni Willmott Dixon yw'r garreg filltir ddiweddaraf. Mae hyn yn dilyn cadarnhad ym mis Mawrth 2017 gan Ken Skates AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith, taw'r safle yma wedi'i ailddatblygu fydd pencadlys Trafnidiaeth Cymru. Yn ogystal â hyn, mae'r Cyngor wedi amlinellu cynlluniau uchelgeisiol i gynnwys Campfa a Llyfrgell newydd yn yr ailddatblygiad.

"Dyma'r garreg filltir ddiweddaraf i'w chyrraedd," meddai'r Cynghorydd Robert Bevan, Aelod o'r Cabinet ar faterion Menter, Datblygu a Thai "ac mae'n dangos yn glir bod y prosiect yn cael ei gyflwyno. Mae'n pwysleisio'r cynnydd sy wedi'i wneud ers i'r Cyngor brynu'r brydles yn 2015 er mwyn hyrwyddo gwaith ailddatblygu safle Canolfan Siopa Dyffryn Taf/Taff Vale."

"Rydyn ni'n falch o gael cwmni Willmott Dixon gyda ni, ac edrychwn ymlaen at weithio gydag ef ar y prosiect uchelgeisiol yma, sydd o bwysigrwydd strategol anferth.

"Pan fydd gwaith ailddatblygu'r safle yma wedi'i gwblhau yn 2019, bydd y safle yn cynnig manteision economaidd sylweddol i Rondda Cynon Taf. Bydd yn creu swyddi a thrawsffurfio'r cynnig masnachol ym Mhontypridd. Ar ben hynny mae'n gwneud datganiad clir am yr hyn y mae modd i Bontypridd ei gynnig, a hithau'n dref strategol i'r rhanbarth, drwy adeiladu ar y cyfleoedd a gynigir gan Fetro De Cymru a'r Fargen Ddinesig.”

"Rydyn ni wrth ein bodd o gael ein penodi i'r prosiect arweiniol yma," meddai Neal Stephens, Rheolwr Gyfarwyddwr cwmni Willmott Dixon, Cymru a Gorllewin Lloegr. "Rydyn ni'n cydnabod y bydd y prosiect hwn yn sbardun i adfywio Pontypridd, tref o bwysigrwydd strategol i ranbarth y Cymoedd.

"Fe gefnogwn ni weledigaeth y Cyngor a'n gweledigaeth ni hefyd – i ddefnyddio busnesau lleol yn ystod y gwaith adeiladu. Heb amheuaeth, byddwn ni'n gadael etifeddiaeth barhaol a fydd yn destun balchder i bawb."

Wedi ei bostio ar 07/07/17