Skip to main content

Cwblhau maes chwaraeon pob tywydd wrth fuddsoddi mewn ysgolion

Mae disgyblion yn Nhonypandy yn mwynhau defnyddio maes chwaraeon pob tywydd newydd sy'n rhan o fuddsoddiad o £85 miliwn yn ysgolion Tonyrefail a Chwm Rhondda gan Gyngor Rhondda Cynon Taf.

 

Mae'r buddsoddiad sylweddol, sydd wedi'i gefnogi gan Lywodraeth Cymru, yn gwneud lles i gymunedau Tonyrefail a Chwm Rhondda drwy wella'r cyfleusterau addysgol a chodi rhai newydd.

 

Mae'r gwaith ar safle Coleg Cymunedol Tonypandy yn symud yn ei flaen, ac mae'r maes chwaraeon pob tywydd eisoes yn cael ei ddefnyddio gan y disgyblion.

 

Yn ddiweddar, aeth y Cynghorydd Eudine Hanagan, Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg a Dysgu Gydol Oes, i'r ysgol a gweld y disgyblion yn mwynhau'r cyfleuster newydd a bwrw golwg ar y gwaith sy'n cael ei wneud.

 

Meddai: “Roedd yn braf cael ymweld â Thonypandy a gweld y bobl ifainc yn manteisio ar ein buddsoddiad sylweddol mewn ysgolion yng Nghwm Rhondda drwy'r rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif.

 

“Pan fydd yr ysgol newydd yn agor i ddisgyblion 3 oed hyd at 16 oed, bydd cyfle iddyn nhw i gyd fwynhau'r maes chwaraeon pob tywydd yn ystod eu gwersi Addysg Gorfforol a'u hamser hamdden, yn ogystal â'r cyfleusterau addysgol rhagorol sy'n cael eu datblygu ar hyn o bryd yn sgil ein buddsoddiad.

 

“Mae'r cynigion ar gyfer sefydlu ysgol newydd i ddisgyblion 3 oed hyd at 16 oed wedi cael eu trafod ers amser hir, ac mae'n braf bod y manteision ein penderfyniad – fel y cyfleuster chwaraeon bendigedig yma – yn dechrau cael eu gwireddu.

 

“Wrth gwrs, bydd yr ysgol yn manteisio ar y cyfleuster chwaraeon newydd yma, ond bydd hefyd gyfle i'r clybiau chwaraeon lleol ei ddefnyddio fe ar gyfer eu sesiynau hyfforddi a'u gemau pan fydd angen, felly, bydd tywydd gwael yn cael llai o effaith ar raglen eu tymor.

 

“Mae disgwyl i'r ysgol newydd agor ym mis Medi 2018, felly, dyma gyfnod cyffrous i gymuned Tonypandy a bydd llawer o waith yn cael ei wneud ar safle'r ysgol i baratoi'r cyfleusterau rhagorol ar gyfer y disgyblion a'r gymuned ehangach.”

 

Meddai Kirsty Retallick, Pennaeth newydd yr ysgol newydd i ddisgyblion 3–16 oed: “Mae'r cyfleusterau rhagorol newydd yn rhan fach o'r buddsoddiad sylweddol yn yr ysgol, yn y gymuned ac ym mhrofiadau bywyd y plant a'r bobl ifainc yn Nhonypandy.”

 

Mae'r rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif yn rhan o'r rhaglen BuddsoddiRhCT ehangach, sydd werth £200 miliwn ac sy'n cynnwys buddsoddi mewn meysydd allweddol – fel ysgolion, mannau chwarae a'r priffyrdd. Drwy ddatblygu'r ysgol newydd yn Nhonypandy ar gyfer disgyblion 3–16 oed, bydd y cynlluniau canlynol hefyd yn cael eu gwireddu:

 

-          Symud disgyblion Ysgol Gynradd Tonypandy, Ysgol Fabanod Pen-y-graig, Ysgol Iau Pen-y-graig ac Ysgol yr Eos i adeilad ysgol gynradd newydd, sy'n bodloni safon Ysgolion yr 21ain Ganrif, ar safle presennol Coleg Cymunedol Tonypandy.

 

-          Gwella adeiladau'r ysgol uwchradd sydd yno ar hyn o bryd, gan gynnwys labordai gwyddoniaeth newydd.

I gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif, ewch i www.rhondda-cynon-taf.gov.uk/ysgolion21ainganrif.

Wedi ei bostio ar 25/01/17