Skip to main content

Lonydd newydd ar gyfer troi i'r dde ar yr A4059, Cwm-bach

Mae'r Cyngor wedi gorffen y gwaith o gyflwyno dwy lôn troi i'r dde newydd ar yr A4059 yng Nghwm-bach.  Bwriad hyn yw gwella llif y traffig ar hyd y ffordd trwy Gwm Cynon.

Fe fwriodd y Cyngor iddi ym mis Hydref, ac mae e bellach wedi cwblhau'r gwaith o gyflwyno'r ddwy lôn newydd ar yr A4059, Canol Road.  Bydd y rhain yn rhoi lle aros diogel ar gyfer cerbydau sy'n troi i'r dde i fynd i'r orsaf betrol Gulf a busnesau Marpol Vehicles a Sparesworld.

Yn dilyn cwblhau'r gwaith o osod wyneb newydd a ddechreuodd ddydd Mawrth, fe gafodd y lonydd newydd eu hagor ddydd Iau, 30 Tachwedd.

Fe sicrhaodd y Cyngor y cyfan o'r arian ar gyfer y cynllun trwy law Llywodraeth Cymru. Roedd y gwaith yn cynnwys llydanu'r ffordd tuag at yr ymyl er mwyn gwneud lle ar gyfer y lonydd newydd yng nghanol y ffordd, a fydd yn golygu na fydd cerbydau sy'n troi i'r dde yn atal llif y traffig i gyfeiriad y de mwyach.

Y gwaith yng Nghwm-bach yw'r buddsoddiad diweddaraf mewn gwella llif traffig ar yr A4059 – sef y brif ffordd trwy Gwm Cynon. Mae'n dilyn y gwaith yn ddiweddar ar Gylchfan Cwm-bach, i wella'r ffyrdd sy'n arwain ato o gyfeiriad Canal Road, a chyflwyno lonydd troi i'r dde newydd.

Mae'r prosiectau sydd wedi'u cwblhau dros y 18 mis diwethaf ar hyd y ffordd trwy Gwm Cynon, trwy raglen #buddsoddiadRhCT, yn cynnwys Cylchfannau Asda a'r Ynys a'r A4059 yn Aberpennar.

Yn ogystal â hynny, parhau mae'r gwaith da ar brif gynllun y Cyngor, sef Ffordd Gyswllt ar draws y Cwm, Aberpennar.  Mae gwaith gwella sylweddol yn cael ei wneud i gyffordd Ystad Ddiwydiannol Cwm Cynon, A4059, ar hyn o bryd. Bydd y gwaith adeiladu'r ffordd gyswllt ei hunan, sef pont dros y Cynon, yn dechrau yn yr haf, 2018.

"Mae'r gwaith bellach wedi dod i ben ar yr A4059 yng Nghwm-bach, y cynllun buddsoddi diweddaraf gan y Cyngor o wella llif traffig ar gyfer cannoedd o yrwyr sy'n dibynnu ar y coridor yma trwy Gwm Cynon bob dydd", meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet sy'n gyfrifol am y Priffyrdd.

“Bydd y lonydd troi i'r dde ger yr orsaf betrol yn rhoi lle aros penodol ar gyfer cerbydau sy'n troi i adael y ffordd - heb fod yn rhwystr ar y brif ffordd ar gyfer gyrwyr sy'n mynd yn syth yn eu blaen. Mae'r cynllun yn dilyn buddsoddiadau tebyg yn Aberpennar, a Chylchfannau'r Ynys ac Asda yn ddiweddar.

“Unwaith eto mae'r Cyngor wedi dangos bod gwella'n priffyrdd, yn enwedig lle mae tagfeydd ar yr oriau prysuraf, yn flaenoriaeth. Yn ogystal â'r buddsoddi sylweddol parhaus yn rhan o raglen #buddsoddiadRhCT, mae'r cynllun yng Nghwm-bach yn dangos bod y Cyngor hefyd yn edrych i sicrhau arian allanol, lle y bo'n bosibl, yn gymorth i wneud gwelliannau pwysig i'n ffyrdd.”

Wedi ei bostio ar 01/12/2017