Skip to main content

I'm A Student Get Me Out Of Here

Mae disgyblion Rhondda Cynon Taf wedi mynd i'r afael ag amrywiaeth o dasgau wedi'u seilio ar thema'r jyngl a'u hysbrydoli gan y sioe deledu. 

Cafodd achlysur 'I’m A Ponty High Student Get Me Out Of Here!' ei drefnu gan Wasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid (YEPS) y Cyngor ac roedd yr achlysur yn boblogaidd iawn ymhlith myfyrwyr yr ysgol. 

Mae Rhaglen Darpariaeth Ychwanegol y Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid yn cael ei chynnal bob dydd Mawrth rhwng 5pm a 7pm yn Ysgol Uwchradd Pontypridd. Cymerodd 28 o bobl ifanc rhwng 11 ac 16 oed ran yn y gweithgareddau. 

Meddai'r Cynghorydd Christina Leyshon, Dirprwy Aelod o'r Cabinet ar faterion Plant a Phobl Ifainc:  "Mae ein Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid yn cynnal gweithgareddau allgyrsiol arbennig ledled ein Bwrdeistref Sirol. 

"Roedd yr achlysur penodol yma, a gafodd ei seilio ar y gyfres teledu, yn golygu bod sawl disgybl wedi cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau o fewn yr ysgol a oedd yn annog ysbryd carfan cryf." 

Yn rhan o'r heriau, bwytaodd y disgyblion sawl danteithfwyd dieithr a rhyfeddol. 

Roedd Molly Davies, 12 oed, ymhlith y disgyblion a oedd yn cymryd rhan. Meddai hi: "Mae Darpariaeth Ychwanegol y Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid yn ein ysgol wastad yn hwyl, ond roedd achlysur 'Get Me Out of Here' yn wych. Rydw i'n edrych ymlaen at ragor o weithgareddau fel hyn." 

Roedd ei chyd-fyfyriwr, Ffion Davies, 12 oed, hefyd wedi mwynhau: "Rydw i'n mwynhau gwylio'r rhaglen bob nos, ac roedd bod yn rhan o fersiwn yr ysgol o'r rhaglen yn arbennig. Rydw i'n ddiolchgar nad oedd rhaid i ni fwyta'r math o bethau sydd ar y rhaglen teledu!" 

Am ragor o wybodaeth ynglŷn â gwaith Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid y Cyngor, ewch i www.wicid.tv neu dilynwch y Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid ar Facebook.

Wedi ei bostio ar 08/12/17