Skip to main content

Gwen Obern yn Dathlu'i Phen-blwydd yn 100 oed

Mae Gwen, a weithiai mewn ffatri arfau yn ystod y rhyfel, ac a gollodd ei golwg pan oedd yn ifanc, wedi dathlu ei phen-blwydd yn 100 oed. Dathlodd yng nghwmni Maer Rhondda Cynon Taf. 

Mae Gwen Obern, sydd wedi byw yn ardal Aberdâr ers ei geni, wedi mwynhau bywyd llawn cariad ac angerdd ar gyfer ei theulu a'r ardal. 

Ym 1940, pan oedd yn 22 oed, gweithiodd Mrs Obern yn y Ffatri Frenhinol ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn creu ffrwydryddion tuag at y Rhyfel. 

Roedd Mrs Obern wedi bod yn gweithio yn y ffatri ers ychydig o ddyddiau ar y 5 Rhagfyr, pan gyrhaeddodd hi'r gwaith yn hwyr ar ôl colli'r bws yn Aberdâr. Ar y diwrnod hwnnw roedd ffrwydrad ar y safle. Bu farw pum person, ac roedd Mrs Obern ymhlith y 12 gweithiwr a gafodd eu hanafu'n ddifrifol.

Yn y ffrwydrad yma, collodd Mrs Obern ei golwg ac un llaw ac ni allai hi ddefnyddio'i llaw arall. Naw mis yn gynharach, priododd Mrs Obern ei gŵr, Ernie. Cafodd 76 llawdriniaeth, gan gynnwys impiadau croen.

Er ei bod yn dioddef poen difrifol a namau corfforol, roedd Mrs Obern yn benderfynol o wneud y gorau o'i bywyd ac mae hi wedi byw bywyd i'r eithaf.  Dathlodd ei phen-blwydd yn 100 oed yng nghwmni ei ffrindiau a'i theulu.

Meddai'r Cynghorydd Margaret Tegg, Maer Rhondda Cynon Taf: "Mae bywyd wedi bod yn anodd iawn i Mrs Obern. Gallai hi fod wedi rhoi'r gorau iddi yn 22 oed. Roedd hi wedi bod yn briod ers cyfnod byr ac wedi dechrau swydd newydd pan gollodd ei golwg.

"Ond mae Mrs Obern yn berson cryf ac roedd hi'n benderfynol o droi'r anfantais yma'n rhywbeth positif. Roeddwn i'n falch iawn o ymuno â hi ar gyfer dathliadau ei phen-blwydd yn 100 oed."

Tair blynedd ar ôl y ddamwain, ymunodd Mrs Obern ag elusen St Dunstan's. Dyma elusen gofrestredig sy'n cynnig gofal i bobl sydd yn ddall neu wedi'u hanafu o ganlyniad i ryfel neu wrthdaro.

Meddai Mrs Obern ychydig o flynyddoedd yn ôl: "Roeddwn i'n benderfynol o gyrraedd y gwaith ar ôl colli fy mws. Roeddwn i wedi bod yn gweithio yno ers ychydig o ddyddiau a doeddwn i ddim eisiau mynd i helynt.

"Ar ôl i fi gyrraedd y gwaith, roeddwn i'n derbyn hyfforddiant yn archwilio'r ffrwydryddion ac felly gwisgais i fy nghot wen hir a'r esgidiau â gwadnau pren.

"Rydw i'n cofio gweld fflach enfawr ac roedd pobl yn rhoi rhywbeth gwlyb ar fy wyneb. Doedd fy mywyd i ddim yr un peth ar ôl hynny.

"Roedd St Dunstan's yna i gynnig cymorth a gofal. Mae'r elusen wedi bod yn wych, ac yn gefnogol iawn. Rydw i wedi bod yn lwcus iawn i gael cariad a chefnogaeth fy ngŵr.

"Rydw i'n falch iawn o fod yn aelod o St Dunstan's drwy gydol fy mywyd. Mae'r elusen wedi fy helpu i ailadeiladu fy mywyd."

Mae gan Mrs Obern llais soprano hyfryd, ac mae hi wrth ei bodd yn canu. Trefnodd St Dunstan's iddi dderbyn hyfforddiant canu proffesiynol, ac aeth ymlaen i berfformio ledled y DU ac yn Ne Affrica. Creodd 75 record a pherfformiodd ar y teledu a'r radio.

Yn 1996, derbyniodd Mrs Obern Ryddfraint Dinas Llundain. Roedd hi'n ymweld â'r ddinas yn aml er mwyn gorymdeithio â St Dunstan's yn rhan o ddathliadau Dydd y Cofio ger y Senotaff yn Whitehall.

Aeth i gwrdd â'r Dywysoges Alexandra gyda St Dunstan's ym Mhalas Buckingham yn 1999. Bu fawr ei gŵr Ernie, a oedd yn gyn-löwr, yn 91 oed yn 2007.

Dydy Mrs Obern erioed wedi ystyried ei hun yn ddall, ac mae hi wedi gwrthod ildio i'w hanableddau. Mae hi wrth ei bodd yn cerdded ac ymweld â'r theatr a'r opera. Drwy gydol ei bywyd, mae hi wedi bod yn benderfynol o beidio teimlo'n flin ynglŷn â'r diwrnod tyngedfennol hwnnw yn 1940.

Wedi ei bostio ar 06/12/17