Skip to main content

Parcio AM DDIM dros gyfnod y Nadolig yn dychwelyd yn Rhondda Cynon Taf

Mae parcio AM DDIM dros gyfnod y Nadolig wedi dychwelyd i Rondda Cynon Taf trwy gydol mis Rhagfyr am bedair blynedd yn olynol.

Mae'r Cyngor unwaith eto wedi cyflwyno parcio am ddim o 10am yn holl feysydd parcio'r Cyngor er mwyn annog rhagor o bobl i siopa'n lleol eleni.

Mae hyn yn golygu y bydd modd i ymwelwyr ag Aberdâr a Phontypridd fanteisio ar barcio am ddim ym mis Rhagfyr. Cewch chi barcio am ddim yn Nhonypandy, Y Porth ac Aberpennar trwy gydol y flwyddyn ar ôl i'r Cyngor gael gwared ar ffioedd parcio yn y tair tref ym mis Ebrill 2017.

Caiff pobl anabl barhau i barcio am ddim gan ddefnyddio'u 'bathodyn glas'.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet sydd â chyfrifoldeb am y Priffyrdd: “Dyma'r bedwaredd flwyddyn i'r Cyngor gyflwyno parcio am ddim yn ystod mis Rhagfyr i helpu trigolion ac ymwelwyr i fanteisio ar yr hyn sydd gan ganol ein trefi i'w gynnig yn ystod yr wythnosau cyn y Nadolig.

“Yn gynharach yn y flwyddyn, cyflwynodd y Cyngor barcio am ddim yn Nhonypandy, Y Porth ac Aberpennar, yn ogystal â gostwng ffioedd parcio ym Mhontypridd ac Aberdâr. Yn rhan o'r penderfyniad yma, cytunodd y Cabinet i ailgyflwyno parcio am ddim yn Aberdâr a Phontypridd eto eleni.

“Trwy fodloni'r ymrwymiad yma, mae'r Cyngor yn annog trigolion i fwynhau cyfnod prysur y Nadolig yn ein trefi – gan gynnwys achlysuron Nadolig wedi'u trefnu yn ystod mis Rhagfyr yn Y Porth, Aberpennar, Llantrisant, Aberdâr, Treorci a Glynrhedynog.”

Cewch chi barcio am ddim trwy gydol mis Rhagfyr. Os ydych chi'n mynd i Aberdâr neu Bontypridd cyn 10am, rhaid arddangos tocyn parcio dilys hyd at 10am.

Wedi ei bostio ar 01/12/2017