Skip to main content

Mae'r Cyngor yn cydnabod Wythnos Diogelwch y Ffyrdd 2017 lwyddiannus

Mae Carfan Diogelwch y Ffyrdd y Cyngor wedi cwblhau wythnos brysur a llwyddiannus yn ymgysylltu â thrigolion ar draws y fwrdeistref sirol, yn rhan o Wythnos Diogelwch y Ffyrdd 2017.

Wythnos Diogelwch y Ffyrdd yw digwyddiad diogelwch y ffyrdd mwyaf y DU. Mae'n cael ei gydlynu bob blwyddyn gan elusen diogelwch y ffyrdd, sef Brake. Eleni (Tachwedd 20-26) ei thema oedd 'Speed ​​Down, Save Lives' i godi ymwybyddiaeth o fodurwyr yn gyrru’n rhy gyflym, a’r canlyniadau posibl yn sgil hynny.

Yn Rhondda Cynon Taf, cynhaliodd Swyddogion Diogelwch y Ffyrdd nifer o brosiectau a gafodd eu hariannu gan Lywodraeth Cymru a'r Cyngor. Dyma'r gweithgareddau a gafodd eu cynnal:

Cliciwch yma i weld rhagor o luniau o Wythnos Diogelwch ar y Ffyrdd 2017

Ymarfer BUZBY – Ddydd Llun, roedd swyddogion allan yn cofnodi manylion gyrwyr oedd yn defnyddio ffôn symudol y tu ôl i'r olwyn. Cafodd 19 o bobl i gyd eu gweld yn defnyddio ffonau symudol ar hyd Tonteg Road a Hopkinstown Road. Bydd y gyrrwyr yma yn cael llythyr rhybuddio gan Heddlu De Cymru sy'n eu hatgoffa nhw bod defnyddio ffôn symudol wrth yrru yn beryglus iawn ac fe all arwain at chwe phwynt cosb ar eu trwydded a dirwy o £200.

Hyfforddiant Kerbcraft mewn ysgolion – cymerodd amryw o ysgolion ar draws y fwrdeistref sirol ran mewn hyfforddiant arbennig a fydd yn rhoi sgiliau hanfodol i'r plant fel y gallan nhw fod yn gerddwyr mwy diogel. Dysgon nhw'r ffordd orau a mwyaf diogel o groesi'r ffordd mewn amryw o lefydd – gan gynnwys rhwng ceir wedi'u parcio ac yn ymyl cyffordd. Cymerodd 146 o ddisgyblion Blwyddyn 2 ran yn yr hyfforddiant o'r ysgolion yma: Ysgol Gynradd y Cymer, Ysgol Gynradd Gymraeg Bronllwyn, Ysgol Babanod Llwyncelyn, Ysgol Llanhari, Ysgol Babanod Pen-y-graig, Ysgol Gynradd Gymuned Cwm-bach ac Ysgol Gynradd Treorci.

Digwyddiad gwybodaeth am ddiogelwch y ffyrdd – daeth mwy na 100 o aelodau o'r cyhoedd i siarad â Swyddogion yn Asda, Tonypandy i gael cyngor am ddiogelwch y ffyrdd. Yno i helpu roedd partneriaid o Gan Bwyll a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru. Roedd fan camera cyflymder ac injan dân yno hefyd yn ogystal â Sarla'r Sebra, sef y masgot diogelwch y ffyrdd, a Swyddogion Iau Diogelwch y Ffyrdd o Ysgol Gynradd Treorci, i helpu i ledaenu'r neges diogelwch ar y ffyrdd.

Cwrs Pass Plus Cymru – daeth grŵp o yrwyr oedd newydd basio'u prawf gyrru i'r cwrs yma, a gafodd ei gynnal yng Ngorsaf Dân Trefforest. Bydd y gyrwyr newydd yn mynd ymlaen i gael hyfforddiant ymarferol ychwanegol gan hyfforddwr gyrru cymeradwy. Mae'r hyfforddiant gwerthfawr yma yn dysgu gyrwyr newydd am dechnegau gyrru ychwanegol ac yn rhoi awgrymiadau iddyn nhw, a hwythau newydd basio.

Cwrs Gyrru'n Ddiogel am Hirach – cymerodd grŵp o yrwyr brwdfrydig dros 65 oed ran yn y cwrs yma a gafodd ei gynnal ym Mhentre'r Eglwys, mewn partneriaeth â Heddlu De Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru. Cafodd y grŵp gyngor a gwybodaeth i wella'u sgiliau gyrru a chynnal eu hyder ar y ffyrdd.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet sy'n gyfrifol am y Priffyrdd: "Mae Wythnos Diogelwch y Ffyrdd unwaith eto wedi bod yn llwyddiant yn Rhondda Cynon Taf, gyda llawer o drigolion yn ymgysylltu â'n Carfan Diogelwch y Ffyrdd mewn nifer o weithgareddau.

"Mae'n wych gweld bod 150 o ddisgyblion wedi cymryd rhan mewn sesiynau hyfforddiant yn ein hysgolion wedi'u cynnal gan Swyddogion. Bydd y sesiynau yma yn eu dysgu nhw sut i fod yn gerddwyr diogel. Ymgysylltodd dros 100 o drigolion â ni hefyd mewn digwyddiad diogelwch y ffyrdd cyhoeddus a gafodd ei gynnal ar y cyd ag asiantaethau partner. Yn ogystal â hynny, cafodd sesiwn pwrpasol llwyddiannus ar gyfer gyrwyr dros 65 oed ei gynnal.

"Hoffwn i ddiolch i bawb a gymerodd ran yn y gweithgareddau a gafodd eu cynnal yn ystod Wythnos Diogelwch y Ffyrdd 2017 yn Rhondda Cynon Taf."

Mae modd i aelodau'r cyhoedd ac ysgolion gael rhagor o wybodaeth am wasanaethau Carfan Diogelwch y Ffyrdd y Cyngor drwy anfon neges e-bost: diogelwchyffyrdd@rhondda-cynon-taf.gov.uk.

Wedi ei bostio ar 04/12/17