Skip to main content

Dathlu'r Nadolig yng Nghwmaman

Mae staff a disgyblion Ysgol Iau Glynhafod ac Ysgol Babanod Cwmaman wedi cynnal eu Gwasanaeth Carolau Nadolig blynyddol yn eu hysgol gynradd gymunedol newydd sbon gwerth £7.2m. Mae'r ysgol wrthi'n cael ei hadeiladu ar hyn o bryd.

Ar y cyd â'r contractwr, Morgan Sindall Group, penderfynwyd cynnal dathliadau'r Nadolig eleni yn yr ysgol newydd. Cafodd rhieni'r cyfle i fynd i mewn i'r ysgol am y tro cyntaf.

Yn rhan o'r Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif, ar y cyd â Llywodraeth Cymru, mae'r Cyngor wedi penderfynu agor yr ysgol newydd sbon ar ddechrau blwyddyn academaidd Medi 2018.

Cliciwch yma i weld lluniau o'r Gwasanaeth Carolau

Bydd cyfleusterau'r ysgol newydd yn cynnwys ardal aml-gampau, maes parcio staff, iard nwyddau, caeau ac ardaloedd awyr agored i ddisgyblion. Bydd adeilad yr ysgol hefyd yn cynnwys ystafell gymunedol ar gyfer grwpiau lleol.

Fe fwynhaodd pawb y gwasanaeth. Canodd disgyblion Ysgol Babanod Cwmaman ganeuon o'u sioe Nadolig. Roedd rhieni wrth eu boddau yn canu'r carolau traddodiadol. Canodd Grŵp Ocarina'r ysgol gyfres o alawon yr ŵyl.

Canodd disgyblion Ysgol Iau Glynhafod ffefrynnau'r ŵyl, fel Little Donkey. Chwaraeodd Grŵp Gitarau'r ysgol Away in a Manger. Darllenodd Jake Davies, Tyler Thorne, Kodi Jones a Levi Brittan adnodau o'r Beibl.

Yn dilyn y Gyngerdd, meddai'r Cynghorydd Joy Rosser, Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg a Dysgu Gydol Oes: "Roedd yn fraint cael mynd i'r gwasanaeth.

"Mae Ysgol Gymunedol Cwmaman yn brosiect enfawr a fydd o fudd i bawb yn y gymuned, nid disgyblion a staff yr ysgol yn unig.

"Unwaith i'r prosiect gael ei gwblhau, bydd yn cynnig ysgol o'r radd flaenaf i'r disgyblion a staff.

"Mae'r Cyngor yn ymrwymo i gynnig cyfleusterau addysg o'r radd flaenaf i'n pobl ifainc ar hyd a lled y Fwrdeistref Sirol."

Meddai'r pennaeth, Paul Morgan: "Roedd yn ddiwrnod gwych. Hoffai pawb sy'n rhan o gymuned yr ysgol ddiolch i Morgan Sindall Group.

"Mae nifer o bobl wedi chwarae rhan yn llwyddiant y gyngerdd. Hoffen ni ddiolch i'r rhieni ac aelodau o'r gymuned a ddaeth i'n cefnogi ni.

"Hoffen ni ddiolch yn arbennig i Gôr Morgan Sindall Group am ymuno â ni yn yr hwyl ac am gynnig addurniadau a lluniaeth ar gyfer yr achlysur.

"Bydd y flwyddyn nesaf yn flwyddyn gyffrous iawn. Edrychwn ymlaen at y cyfnod pontio rhwng Ysgolion Glynhafod a Chwmaman, a'r ysgol newydd sbon yma."

Mae rhaglen #BuddsoddiadRhCT, ar y cyd â Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru, wedi ariannu'r ysgol gymunedol newydd yma, gwerth £7.2m.

Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif Rhondda Cynon Taf

Wedi ei bostio ar 22/12/2017