Mae gwaith gosod wyneb newydd ar hyd Heol Ynys-wen (A4601), Treorci, wedi dod i ben – bedwar diwrnod yn gynt na'r disgwyl.
Mae'r ffordd wedi ailagor i draffig ac mae'r gwyriad wedi dod i ben. Hoffai'r Cyngor ddiolch i bawb am fod yn amyneddgar yn ystod y gwaith gwella.
Cafodd wyneb newydd ei osod ar hyd Heol Ynys-wen (A4601), Treorci, rhwng pont Nant Orci a Stryd Baglan. Roedd y gwaith yn golygu cau'r ffordd am bythefnos – yn dechrau ar 14 Awst – rhwng 8am a 5pm bob dydd.
Roedd disgwyl i'r gwaith ddod i ben ddydd Llun, gŵyl y banc (28 Awst), ond, mae'r gwaith wedi dod i ben yn gynt na'r disgwyl a chafodd y ffordd ei hailagor ddydd Iau (24 Awst).
Mae gwaith atgyweirio strwythurol hanfodol yn parhau ar y bont, ond, dydy'r gwaith yma ddim yn effeithio ar agor y ffordd.
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet sy'n gyfrifol am y Priffyrdd: “Cafodd wyneb newydd ei osod ar y brif ffordd yma i gyfrannu at sicrhau ei dyfodol.
“Rydw i'n siŵr bydd y miloedd o yrwyr sy'n defnyddio'r ffordd yma yn falch o'i gweld hi'n ailagor bedwar diwrnod yn gynt na'r disgwyl. Hoffwn i ddiolch i'r trigolion a'r gyrwyr am fod yn amyneddgar yn ystod y gwaith yma.”
Wedi ei bostio ar 25/08/2017