Skip to main content

Miloedd yn achlysur Cegaid o Fwyd Cymru

 Heidiodd dros 13,000 o bobl i achlysur Cegaid o Fwyd Cymru 2017, Gŵyl Fwydydd Cymru ym Mhontypridd, er gwaetha'r elfennau. 

Doedd dim modd i'r holl law, cesair - a'r ambell i lygedyn o haul – roi stop ar boblogrwydd yr achlysur, wrth i filoedd o ymwelwyr o bob cwr o'r wlad a'r Deyrnas heidio i'r achlysur. 

O dan ofal Cyngor Rhondda Cynon Taf a nawdd y cwmni hufen iâ teuluol lleol  Subzero, doedd achlysur 2017 ddim yn siomi, a oedd yn cynnwys dros 50 o arddangoswyr bwydydd a diodydd, a llawer o atyniadau cyffrous a hwyl i'r teuluoedd.

Er gwaethaf y tywydd cymysg, roedd miloedd o bobl yn mwynhau blasu ac yn mynd adref ag arlwy o fwydydd a diodydd arbennig o dda – y cyfan wedi'i dyfu, ei godi, ei ddal, ei fragu, ei biclo, ei bobi, ei fygu neu'i brosesu o law'r stondinwyr eu hunain. 

Roedd rhywbeth at ddant pawb, ynghyd â sioeau coginio, stondiau helaeth ac atyniadau i bawb o bob oedran, ynghyd â rhaglen ddeuddydd llawn dop o adoniant yn yr arena i'r teulu cyfan. 

Ymhlith y rheiny a oedd yn arddangos eu doniau coginio oedd Ridiculously Rich by Alana, Enillydd rhaglen The Apprentice; Stondin bwyd stryd dros dro La Ffroga’s o Gaerdydd C’est Cheese, Cyflenwr Cig Cymreig y Flwyddyn Rhosyn Farm; o Aberhonddu Coity Bach Farm; The Artisan Cook; Taffy’s Treats; O Sir Gâr Good and Proper Brownies; Shelly’s Shortbread; o Abercynon Ooh La La Patiserie, a llawer mwy. 

Yn yr arena roedd yr adloniant yn cynnwys Black Rock Llamas, sy'n dal record y byd am neidio, ar ôl iddyn nhw neidio bar 3 troedfedd, 8.5 modfedd ; a sioeau gwefreiddiol gan dîm Hebogiaid y Mynnydd Du sydd wedi ennill gwobrau. 

Roedd y cwmni stynt BMX Savage Skills, prif dîm styntiau Beiciau Mynydd Dull-rydd y DG ac enillydd 8 cystadleuaeth y byd a 25 o deitlau Prydain, yn darparu'r holl wefr a chyffro. 

Roedd pabell Uned Iechyd a Lles y Cyngor hefyd yn boblogaeth yn ogystal â stondin Parc Treftadaeth Cwm Rhondda a oedd yn hyrwyddo'r achlysuron sydda r y gorwl ym mhrif atyniad twristiaeth y Cyngor i Deuluoedd. 

Meddai'r Cynghorydd Maureen Webber, Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Busnes y Cyngor: "Serch y tywydd newidiol dros y penwythnos, roedd Cegaid o Fwyd Cymru unwaith eto mor boblogaidd ag erioed, gyda rhywbeth i bawb yn y teulu. 

"Nid yn unig y cawson ni brydau blasus heb eu hail gan arddangoswyr o Gymru, ond cawson ni hefyd adloniant o'r radd flaenaf ar gyfer ein 13,000 o bobl a ddaeth i Barc Ynysangharad. 

"Diolch o galon i'r ymwelwyr a'r arddangoswyr i gyd a gefnogodd achlysur 2017, gan ei wneud yn llwyddiant aruthrol unwaith yn rhagor a dynnodd y dŵr o'r dannedd." 

Mae'r achlysur Cegaid o Fwyd Cymru bellach yn 14 oed, ac mae'n dathlu danteithion o Gymru.

Wedi ei bostio ar 08/08/17