Skip to main content

Erlyniadau llwyddiannus yn erbyn rhagor o dramgwyddau troseddol tipio anghyfreithlon

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi cadarnhau ei agwedd ‘dim goddefgarwch’ at dramgwyddau troseddol tipio anghyfreithlon, ar ôl i ddau breswylydd yn rhagor gael eu herlyn - a chael gorchymyn i dalu cyfanswm o fwy na £840.

Mae'r Cyngor yn parhau i gymryd camau llym yn erbyn taflwyr sbwriel a thipwyr anghyfreithlon mewn ymgais i wneud Rhondda Cynon Taf yn fwy glân a gwyrdd. Mae'r fenter yn cynnwys ymgyrch 'Pwy Wnaeth E?'. Ar ôl i'n Swyddogion Gorfodi dynnu lluniau o bobl mae'r Cyngor eisiau siarad â hwy mewn cysylltiad â thramgwyddau troseddol, byddwn ni'n postio'r lluniau ar-lein.

Cyfartaledd Cymru ar gyfer ailgylchu yn 2016-17 oedd 58%, a dyna darged Llywodraeth Cymru. Yn ôl ffigurau a gyhoeddwyd ym mis Mai 2017, rydym ni fel Cyngor yn ailgylchu 64% o'n gwastraff - record i Gymru gyfan. Mae mwy a mwy o'n preswylwyr yn derbyn yr hêr, ond ceir rhai o hyd yn dal i gyflawni tramgwyddau troseddol sy'n gysylltiedig â gwastraff.

Mewn gwrandawiadau ar wahan yn Llys Ynadon Merthyr Tudful ar 12fed Gorffennaf 2017, plediodd dau breswylydd yn euog i dramgwyddau troseddol gwastraff yn ardal y Rhondda.

Cyhuddwyd Lewis Young, Lower Terrace, Stanleytown, o dipio anghyfreithlon o dan Adran 33 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990. Bu iddo waredu gwastraff a reolir yn fwriadol a chan wybod hynny yn Heol Pendyrus, Pen-rhys, ar neu cyn 2ail Tachwedd, 2016.

Daeth y digwyddiad i sylw'r Cyngor ar ôl i Swyddog Gorfodi gael hyd i bump o fagiau duon yn cynnwys sbwriel a gwastraff oedd yn eiddo i Mr. Young ar ardal cilfan welltog yn Heol Pendyrus, ar 2ail Tachwedd. Mae'r ardal yn fan lle ceir llawer o dramgwyddau troseddol gwastraff. Mae yno arwydd 'Dim Tipio Anghyfreithlon' sy'n atgoffa pobl o gosbau'r tramgwydd troseddol.

Gwahoddodd y Cyngor Mr. Young i ymbresenoli mewn cyfweliad, lle'r addefodd iddo adael y bagiau yn Heol Pendyrus. Fe gyflwynodd ef ble o euog i dipio anghyfreithlon yn ddiweddarach yn ystod rheithdrefnau achos Llys.

Cafodd Mr. Young ddirwy o £250, a gorchymyn i dalu £208.86 o gostau, a gordal dioddefwr o £30 - sef bod rhaid iddo dalu cyfanswm o £488.86.

Cyhuddwyd Sophie Louise Evans, o Edward Street, y Maerdy, o methu rheoli gwastraff o dan Adran 34 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990. Fe dalodd hi i ddau ddyn am symud gwastraff i ffwrdd o'i heiddo ar neu cyn 21ain Tachwedd, 2016. Cafodd y gwastraff ei daflu a'i adael ar hen ffordd mynediad i safle Glofa'r Maerdy.

Bocsys cardfwrdd wedi'u taflu a'u gadael ar yr hen ffordd mynediad i safle Glofa'r Maerdy

Ar 21ain Tachwedd, roedd un o Swyddogion Gorfodi'r Cyngor yn archwilio'r ffordd yn ardal y Maerdy, a chafodd hyd i nifer o focsys  cardfwrdd. Roedd y gwastraff ar y clawdd gwelltog ar hyd ymyl y ffordd ac yn y cylfat, hefyd.

Gwahoddodd y Cyngor Ms Evans i gyfweliad, lle'r addefodd iddi dalu i ddau ddyn am fynd â'r gwastraff i ffwrdd o'i heiddo. Fe blediodd Ms Evans yn euog o fethu rheoli gwastraff yn ddiweddarach yn ystod rheithdrefnau achos Llys.

Cafodd Ms Evans ddirwy o £120, a gorchymyn i dalu £208.86 o gostau, a gordal dioddefwr o £30, sef bod rhaid iddi dalu cyfanswm o £358.86.

"Mae'r erlyniadau llwyddiannus yma yn anfon neges glir na fyddwn ni ddim yn goddef tipio anghyfreithlon," meddai Nigel Wheeler, Cyfarwyddwr Gwasanaethau’r Priffyrdd a Gofal Strydoedd Cyngor Rhondda Cynon Taf. "Dyma'r diweddaraf mewn cyfres o achosion lle'r oedd preswylwyr a thrigolion wedi taflu a gadael eu heitemau o wastraff neu wedi methu'u rheoli, a bod y Cyngor wedi cymryd camau pellach.

"Maent yn dilyn achosion ar wahan ym mis Mehefin lle cafodd tri phreswylydd orchymyn i dalu cyfanswm cyfunol o fwy na £3,600 am dramgwyddau troseddol gwastraff.

"Mae mwy a mwy o bobl yn Rhondda Cynon Taf yn croesawu hêr ailgylchu'r Cyngor, a arweiniodd at y cyflawniad ailgylchu gorau erioed yn RhCT yn 2016, pryd yr ailgylchwyd 64% o'r gwastraff yn gyffredinol.

"Serch hynny, y mae nifer fechan o bobl yn dal heb weithredu'n gyfrifol, a bydd yr erlyniadau pellach yma yn dangos nad yw'r Cyngor yn ofni cymryd camau gweithredu pellach yn dilyn tramgwyddau troseddol gwastraff.”

Wedi ei bostio ar 04/08/17