Skip to main content

Bant â'r Baw! - Achlysuron codi ymwybyddiaeth ynglŷn â mesurau baw cŵn newydd

Bydd Cyngor Rhondda Cynon Taf yn ymweld â pharciau, caeau chwaraeon, canol trefi ac ysgolion cyn bo hir er mwyn codi ymwybyddiaeth ynglŷn â mesurau baw cŵn newydd. Bydd y mesurau newydd yn dod i rym ar 1 Hydref.

Mae'r Cyngor yn cyflwyno Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus sy'n cynnwys mesurau gorfodi newydd a llymach er mwyn mynd i'r afael â pherchenogion cŵn anghyfrifol ar draws y Fwrdeistref Sirol.

O ganlyniad i hyn, RHAID i berchnogion cŵn gario bagiau, neu ryw ddull addas arall, er mwyn cael gwared â'r baw. Caiff cŵn hefyd eu gwahardd o HOLL ysgolion, mannau chwarae, a chaeau chwaraeon sy wedi'u marcio y mae'r Cyngor yn eu cynnal a'u cadw. Bydd RHAGOR o swyddogion gorfodi yn crwydro'r strydoedd a bydd RHAID i berchenogion roi'u cŵn ar dennyn os yw'r swyddogion yn gofyn iddyn nhw wneud.

Mae'r Cyngor wedi rhoi cip ymlaen llaw o'i ymgyrch marchnata Bant â'r Baw! er mwyn hyrwyddo'r newidiadau. Mae'r newidiadau yma'n anfon neges glir iawn i'r rheiny sydd ddim yn codi baw eu cŵn. Rhowch y baw mewn bag ac yn y bin neu mae'n bosib cewch chi ddirwy o hyd at £100.

Mae'r Cyngor yn bwriadu cynnal cyfres o sesiynau codi ymwybyddiaeth gyda phreswylwyr yn y ddau fis nesaf cyn i'r newidiadau ddod i rym, er mwyn sicrhau eu bod nhw'n llwyr ymwybodol o'r mesurau newydd.

Bydd sesiynau wedi'u targedu yn cael eu cynnal yng nghanol trefi, parciau, caeau chwaraeon ac ysgolion cynradd o 4 Awst. Bydd y Cyngor hefyd yn bresennol mewn achlysuron lleol megis Cegaid o Fwyd Cymru ym Mharc Coffa Ynysangharad, 5-6 Awst a Diwrnod Trafnidiaeth o Dras Pontypridd a Gŵyl Ynys-y-bŵl.

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden: "Ymgynghorodd Aelodau'r Cabinet ar faterion baw cŵn gan fod trigolion wedi codi'r broblem nifer o weithiau. Aeth y Cabinet ymlaen i gytuno ar fesurau gorfodi llymach i'w cyflwyno dan Orchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus. Bydd rhagor o adnoddau ar gael i fynd i'r afael â'r broblem yma, yn sgil y Gorchymyn yma.

Yn y cyfamser, rhoddwyd cip ymlaen llaw o ymgyrch llym y Cyngor, Bant â'r Baw!, yn gynharach yn y flwyddyn. Mae'r ymgyrch yma'n rhoi neges glir i berchenogion cŵn anghyfrifol.

"Mae'r Cyngor wedi trefnu cyfres o achlysuron codi ymwybyddiaeth a fydd yn cael eu cynnal drwy gydol mis Awst a mis Medi er mwyn amlinellu'r mesurau newydd yma i breswylwyr.

"Bydd y sesiynau yma'n rhan o raglen a dargedir yn y cymunedau hynny a fydd yn cael eu heffeithio gan y newidiadau - mewn parciau, mannau chwarae, ysgolion a chaeau chwaraeon - yn ogystal ag yng nghanol trefi ac mewn achlysuron megis Gŵyl Cegaid o Fwyd Cymru.

"Bydd carfan ymgynghori'r Cyngor ar gael ym mhob achlysur er mwyn esbonio beth mae'r mesurau baw cŵn newydd yn ei olygu ac er mwyn ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych chi. Bydd y garfan hefyd yn dosbarthu cardiau gwybodaeth i aelodau'r cyhoedd.

"Felly, erbyn i'r mesurau newydd ddod i rym ar 1 Hydref, bydd perchenogion cŵn yn gwybod beth yn union sydd angen iddyn nhw ei wneud.

Mae modd gweld rhestr o achlysuron codi ymwybyddiaeth yma.

Am ragor o wybodaeth ynglŷn â mesurau baw cŵn newydd ac ymgyrch Bant â'r Baw! ewch i http://www.rctcbc.gov.uk/CY/SortITOut.aspxt.

Wedi ei bostio ar 02/08/17