Skip to main content

Sêr Disglair yn cael eu gwobrwyo mewn Achlysur Dathlu Ieuenctid

Mae gwaith pobl ifainc ar draws y Fwrdeistref Sirol wedi cael ei gydnabod mewn Achlysur Dathlu blynyddol. 

Cafodd yr achlysur ei drefnu gan Wasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid y Cyngor a'i gynnal yn Theatr y Colisëwm, Aberdâr. Roedd yn gyfle i'r enillwyr a'u teuluoedd ddathlu'u holl waith caled a'u hymrwymiad. 

Perfformiodd Grŵp Dawns y Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid, Street Flyers, ddawns syfrdanol ar ddechrau'r achlysur. Cafwyd perfformiadau hefyd gan Gymfinity Cheer Leading a Creazione Beats. 

Iwan James a Chloe Cooper oedd yn cyflwyno'r achlysur ac roedden nhw'n ymddwyn yn broffesiynol iawn trwy gydol yr achlysur. 

Cafodd Gwobr Iechyd a Lles ei gwobrwyo i Ffion Davies a chafodd y Wobr am Gyfraniad Eithriadol i Gerddoriaeth ei rhoi i Connor Smillie a Bradley Ellis, DJs Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid y Ddraenen Wen. 

Cafodd Gwobr Cyfraniad Eithriadol i'r Celfyddydau Creadigol a Diwylliant ei chyflwyno i Turnip Starfish a'r bobl ifainc mae'n cysylltu â nhw trwy ddarparu sesiynau Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid. Daeth Steve Ennis yn ail. 

Derbyniodd Phil Davies wobr Gweithiwr Ieuenctid y Flwyddyn, a daeth Gareth Richards yn ail. 

Enillodd Grŵp Agored Cymru Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid Ysgol Uwchradd Pontypridd y wobr am ei gynlluniau gwaith ieuenctid sy'n ymgysylltu pobl ifainc â chategori addysg ffurfiol. Daeth Grŵp Agored Cymru Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid Garth Olwg yn ail. 

Derbyniodd Fforymau Ieuenctid RhCT y wobr am Gyfraniad Eithriadol i Gyfranogiad ac Ymgynghoriad. Cafodd Gwobr Cydnabyddiaeth Arbennig Seren Ddisglair ei rhoi i James Roberts a Gwobr Seren Ddisglair i Hannah Mitchell. 

Meddai'r Cynghorydd Christina Leyshon, Dirprwy Aelod o'r Cabinet ar faterion Plant a Phobl Ifainc: "Mae'r Achlysur Dathlu blynyddol yma'n cydnabod pobl ifainc ein Bwrdeistref Sirol sy'n cyfrannu cymaint at y gymdeithas ac sydd â thalent fawr. Y bobl ifainc yma yw'r dyfodol ac rydw i'n hyderus byddan nhw'n mynd ati i gyflawni'r holl bethau maen nhw eisiau'u gwneud yn ystod eu bywydau. 

"Mae'n wych gweld y bobl ifainc yma yn magu hyder a hunan-barch, gwneud ffrindiau newydd ac ennill cymwysterau – maen nhw'n sêr." 

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid y Cyngor wedi ymgysylltu â mwy na 10,000 o bobl ifainc rhwng 11 a 25 oed.

Wedi ei bostio ar 31/08/17