Skip to main content

Pride Yn Ein Cymunedau

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi bod yn gefnogwr angerddol o Pride Cymru 2017. Mae’r Cyngor wedi ymuno ag awdurdodau lleol eraill ar gyfer yr achlysur blaenllaw yng Nghaerdydd. Mae'r Cyngor hefyd wedi newid gwedd nifer o'i adeiladau.

Mae Awdurdodau Lleol ar hyd a lled Cymru yn Falch o weithio gyda'i gilydd yn achlysur Pride Cymru 2017.

Ar ôl llwyddiant yr achlysur llynedd, mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi ymuno ag awdurdodau lleol eraill a sefydliadau'r sector gyhoeddus er mwyn cefnogi cymuned Pobl Lesbiaidd, Hoyw, Ddeurywiol a Thrawsrywiol a chodi ymwybyddiaeth ynglŷn â materion pwysig ar gyfer unigolion.

Aeth unigolion o gynghorau Rhondda Cynon Taf, Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Gâr, Caerdydd, Merthyr Tudful, Casnewydd, Abertawe, Torfaen a Bro Morgannwg i achlysur Pride Cymru 2017.

I ddathlu'r achlysur, roedd Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi hedfan y faner Enfys ar nifer o'i adeiladau. Cafodd Amgueddfa Glo Cymru, Parc Treftadaeth Cwm Rhondda, a Theatr y Colisëwm, Aberdâr a Theatr y Parc a'r Dâr, Treorci, eu goleuo i nodi'r achlysur.

Meddai'r Cynghorydd Maureen Webber, Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Busnes y Cyngor: "Mae Pride Cymru 2017 wedi bod yn llwyddiant anferth. Roedd Cyngor Rhondda Cynon Taf yn falch iawn o chwarae rhan drwy godi'r Faner Enfys a goleuo rhai o adeiladau mwyaf eiconig y Fwrdeistref yn lliwiau'r enfys a gweithio mewn partnariaeth ag awdurdodau lleol eraill ar gyfer yr achlysur.

"Llynedd, roedd mwy o bobl wedi ymgysylltu â Pride Cymru nag erioed. Roedd yr achlysur wedi darparu cyfle unigryw i siarad â chymuned Pobl Lesbiaidd, Hoyw, Ddeurywiol a Thrawsrywiol am y materion sy'n bwysig iddyn nhw mewn lleoliad lliwgar.

"Bydd yr wybodaeth yma'n cael ei defnyddio gan ein partneriaid er mwyn gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau unigolion sy'n rhan o gymuned Pobl Lesbiaidd, Hoyw, Ddeurywiol a Thrawsrywiol yn Ne Cymru.

Aeth miloedd o bobl i achlysur Pride Cymru 2017 yng nghanol dinas Caerdydd dros y penwythnos. Ymhlith yr unigolion a oedd yn perfformio oedd Fun Lovin' Criminals, Into The Ark a Charlotte Church. 

Mae gan Gyngor Rhondda Cynon Taf garfan o bobl sy'n delio â materion cydraddoldeb ac amrywiaeth drwy weithio â phartneriaid mewnol ac allanol er mwyn cyflawni ymrwymiad y Cyngor at  Am ragor o wybodaeth e-bostiwch cydraddoldeb@rctcbc.gov.uk 

 

Wedi ei bostio ar 01/09/17