Skip to main content

Achlysuron Drysau Agored yn Rhondda Cynon Taf

Bydd cyfres o achlysuron Drysau Agored cyffrous yn cael eu cynnal ar hyd Rhondda Cynon Taf yn ystod mis Medi. 

Ydych chi erioed wedi ystyried beth sy'n digwydd y tu ôl i lenni Taith Pyllau Glo Cymru Parc Treftadaeth Cwm Rhondda? A hoffech chi ddysgu am hanes Ffynnon Thermol Ffynnon Taf? 

Mae Drysau Agored yn cynnig mynediad i nifer o adeiladau hanesyddol yn Rhondda Cynon Taf sydd ddim fel arfer ar agor i'r cyhoedd. Mae'r achlysuron hefyd yn rhoi cipolwg diddorol iawn ar yr adeiladau hyn. 

Mae sawl achlysur yn cael eu cyflwyno gan arbenigwyr lleol, sy wedi gwirfoddoli i helpu adrodd hanes y pynciau sy'n bwysig iddyn nhw. 

Dewch i ymweld â Bragdy Annibynnol Grey Trees, galw heibio i Grochendy Nantgarw, mynd ar daith feicio ar hyd y Llwybr Treftadaeth, ymweld â'r eglwysi amrywiol yn Rhondda Cynon Taf, a llawer mwy. 

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden, sydd â chyfrifoldeb dros dreftadaeth ac atyniadau i ymwelwyr: "Unwaith eto, mae Drysau Agored 2017 yn cynnig rhaglen orlawn o achlysuron sy'n galluogi'r cyhoedd i gael mynediad i nifer o adeiladau hanesyddol yn ogystal â dysgu am eu hanes gan dywyswyr arbenigol. 

"Mae Rhondda Cynon Taf yn Fwrdeistref Sirol sydd â threftadaeth gyfoethog. Mae Drysau Agored yn ein galluogi ni i gyflwyno hyn i gynulleidfa ehangach. 

Mae Drysau Agored Rhondda Cynon Taf yn cael ei chynnal yn ystod mis Medi. Mae hi'n rhan o raglen achlysuron ledled Cymru sy'n cael eu cydlynu gan CADW. Gallwch chi weld manylion yr achlysuron yma: www.cadw.wales.gov.uk/opendoors 

Wedi'i drefnu gan CADW, Gwasanaeth Amgylchedd Hanesyddol Llywodraeth Cymru, mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn cefnogi achlysur Drysau Agored bob blwyddyn, gan ganiatáu i'w drigolion archwilio trysorau cudd diwylliant a hanes Cymru.

Wedi ei bostio ar 01/09/2017