Skip to main content

Cyfleusterau Cyhoeddus Rhiw'r Mynach yn ail-agor yn dilyn gwaith ailwampio

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi cwblhau gwaith ailwampio ar gyfleusterau cyhoeddus Rhiw’r Mynach. Mae'r cyfleusterau, sydd yng Nghanol Tref Aberdâr, bellach wedi ailagor i aelodau'r cyhoedd.

Mae'r Cyngor wedi gwneud buddsoddiadau sylweddol yn ddiweddar i gyfleusterau tai bach yn y Porth, Tonpentre a Threherbert. Y gwaith yn Aberdâr yw'r bedwerydd cynllun i gael ei gwblhau. Cafodd y gwaith yn Rhiw’r Mynach ei gyhoeddi yn gynharach yn y flwyddyn yn rhan o fuddsoddiad ehangach gwerth £50,000.

Mae gan gyfleusterau cyhoeddus newydd Rhiw’r Mynach gyfleuster newid babanod yn ogystal â basnau, seddau, basnau ymolchi, sychwyr dwylo a thoiled i'r anabl newydd. Cafodd llawr newydd ei osod a gwaith rendro ei gwblhau.

Yn rhan o'r buddsoddiad, mae drysau newydd wrth y brif fynedfa. Mae modd cloi'r drysau yma gan ddefnyddio system cloi awtomatig y mae modd i'r Cyngor ei reoli o bell. Bydd y cyfleuster yma'n cael ei archwilio'n gyson gan Garfan Gofal y Strydoedd y Cyngor.

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden: "Mae pedwar cynllun gwella cyfleusterau cyhoeddus bellach wedi cael eu cwblhau. Mae pob cynllun wedi gwella cyfleusterau ar gyfer preswylwyr y cymunedau lleol ac ymwelwyr.

"Mae nifer yr achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol yn erbyn ein cyfleusterau cyhoeddus wedi cynyddu dros y blynyddoedd diwethaf. Rydw i'n annog preswylwyr i helpu'r Cyngor i edrych ar ôl y cyfleusterau yma, a rhoi gwybod am unrhyw ddigwyddiadau fel ein bod ni'n gallu ymdrin â'r mater yn syth.

"Hoffwn i ddiolch i'r preswylwyr am eu cydweithrediad tra roedd y cyfleusterau ar gau a'r gwaith ailwampio yn cael ei gwblhau."

Bydd cyfleusterau Rhiw’r Mynach ar agor chwe diwrnod yr wythnos. Bydd y cyfleusterau ar agor rhwng 9am a 5pm ar ddydd Llun a dydd Sadwrn, a rhwng 9am a 5.30pm rhwng dydd Mawrth a dydd Gwener.
Wedi ei bostio ar 02/08/17