Skip to main content

Gwaith adnewyddu sylweddol ar arosfannau bysiau Catherine Street, Pontypridd

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi ailagor arosfannau bysiau Catherine Street, Pontypridd yn dilyn gwaith ailwampio gwerth £100,000.

Dechreuodd y gwaith gosod cysgodfannau newydd a byrddau arddangos newydd ar gyfer amserlenni, ailwynebu troedffyrdd, gosod cyrbau hygyrch ar y pafin a phaentio marciau ffordd newydd, ym mis Mehefin.

Cafodd gwaith y cynllun ei rannu'n ddau brif gam. Cafodd arosfannau E1 ac E2 eu hailwampio'n gyntaf, ac yna arosfannau E3 ac E4. Roedd hyn yn golygu bod dau arhosfan yn parhau i fod ar agor a bod yr holl lwybrau teithio yn weithredol wrth i'r gwaith gael ei gwblhau.

Cafodd pob arhosfan ei ailagor ar y penwythnos ac mae'r mesurau rheoli traffig a oedd wedi cael eu rhoi ar waith bellach wedi cael eu dileu.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion y Priffyrdd: "Mae'r gwelliannau sylweddol yma i arosfannau bysiau Catherine Street yn golygu bydd gan breswylwyr Pontypridd a'i ymwelwyr fynediad gwell at drafnidiaeth gyhoeddus.

"Mae'r buddsoddiad cyfunol yma gwerth £100,000 er mwyn gwella'r arosfannau bysiau a'r troedffyrdd bellach wedi'i gwblhau. Unwaith eto, mae'r Cyngor wedi dangos ei fod yn buddsoddi yn ei Isadeiledd Priffyrdd a Thrafnidiaeth er lles preswylwyr, ymwelwyr a'r economi lleol.

"Cafodd y gwaith yma ei gwblhau gan roi mesurau rheoli traffig ar waith. Gweithiodd y Cyngor yn agos gyda gweithredwyr bysiau er mwyn sicrhau bod modd i'r cyhoedd gael mynediad at bob llwybr teithio o Catherine Street tra bod y gwaith yn cael ei gwblhau.

"Hoffwn i ddiolch i breswylwyr a gweithredwyr bysiau am eu cyd-weithrediad wrth i ni gwblhau'r gwaith."

Wedi ei bostio ar 02/08/2017