Skip to main content

Myfyrwyr TGAU yn Dathlu'r Canlyniadau

Mae myfyrwyr TGAU ar hyd a lled Rhondda Cynon Taf yn dathlu'u canlyniadau TGAU. 

Ymhlith y rheiny i gael eu canlyniadau heddiw yw Ellie Thomas, o'r Porth. Yn ôl Ellie, roedd yr arholiadau yn heriol, ond roedd hi'n benderfynol o lwyddo ynddyn nhw. 

Meddai: "Roedd e'n waith anodd iawn, ond mae fy ymdrechion wedi talu ar eu canfed - dwi'n hapus dros ben gyda fy nghanlyniadau, sef 4A, 7B a C. Dwi'n methu credu fy mod wedi gwneud mor dda â hyn." 

Treuliodd y Cyng. Joy Rosser, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg a Dysgu Gydol Oes, a'r Cyng. Christina Leyshon, Dirprwy Aelod o'r Cabinet ar faterion Plant a Phobl Ifainc, y bore yn ymweld â chynifer o ysgolion uwchradd â phosibl. Siaradon nhw â staff yr ysgol a llongyfarch disgyblion ar eu llwyddiant. 

Meddai'r Cynghorydd Joy Rosser, Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg a Dysgu Gydol Oes: "Er gwaethaf y gyfres o newidiadau mawr eleni i fesurau cyflawniad TGAU, mae nifer wedi llwyddo i gael canlyniadau da ar hyd a lled y Fwrdeistref Sirol. Roedd nifer o'r disgyblion yn wên o glust i glust. 

Mae derbyn canlyniadau TGAU yn garreg filltir enfawr i bob disgybl. Hoffwn i longyfarch y bobl ifainc yma, yn ogystal â dweud pob hwyl iddyn nhw gyda'u hastudiaethau yn y dyfodol a'u gyrfaoedd. 

Hoffwn i hefyd achub ar y cyfle i ddiolch i'n penaethiaid, ein hathrawon, ein cyrff llywodraethu, a'n rhwydweithiau cymorth am weithio'n galed i helpu'u disgyblion i lwyddo. Mae rhieni a chynhalwyr hefyd yn chwarae rhan allweddol wrth helpu'u plant. Maen nhw, hefyd, yn haeddu clod.” 

Meddai Dirprwy Aelod o'r Cabinet ar faterion Plant a Phobl Ifainc, Tina Leyshon: "Roedd yn wych cael y cyfle i gwrdd â nifer o'n disgyblion, oedd ar bigau'r drain wrth fynd i'w hysgolion i dderbyn eu canlyniadau, yn dathlu.

Dyma gyfnod hollbwysig iddyn nhw. Rwy'n dymuno'n dda iddyn nhw yn y dyfodol, gyda'u bywyd academaidd a bywyd proffesiynol."

Mae Tomas Watkins, 16 oed, sy hefyd yn ddisgybl yn Ysgol Gymunedol y Porth, yn dathlu cael 2 A*, 5 A a 3 B. Bydd yn parhau â'i astudiaethau, gan astudio Seicoleg, Rheoli Busnes a Gwyddor Chwaraeon ar gyfer ei lefel A. 

Meddai: "Dwi ar ben fy nigon gyda'r canlyniadau. Bydd y canlyniadau yma o fudd i mi gyda'm hastudiaethau yn y dyfodol, ac yn gymorth i mi wireddu'm breuddwyd o fod yn hyfforddwr ffitrwydd.” 

Mae Poppy Green, 16 oed, o Gwm Clydach, hefyd yn falch o'i chanlyniadau. Cafodd hi 2A, 4B a 5C, a bydd yn parhau â'i hastudiaethau. Ei gobaith yw cymhwyso'n nyrs filfeddygol yn y dyfodol. Meddai: "Dwi'n methu credu hyn. Mae'r canlyniadau yma'n meddwl y byd i mi.”

Wedi ei bostio ar 24/08/17