Skip to main content

Masnachwyr yn croesawu'r Cynlluniau Drafft ar gyfer Tonypandy

 Cafodd cynlluniau'r Cyngor i ddatblygu Canol Tref Tonypandy eu croesawu gan fasnachwyr mewn achlysur ymgysylltu diweddar. 

Cafodd mwy na 20 o fusnesau eu cynrychioli yn yr achlysur, a gafodd ei gynnal gan Gyngor Rhondda Cynon Taf. Roedd e'n gyfle i'r masnachwyr gael cipolwg ar gynlluniau'r cyngor i adolygu'r drefn bresennol ar gyfer cerddwyr. 

Yn ogystal â hynny, croesawodd y masnachwyr gynlluniau'r Cyngor i gyflwyno cynllun peilot cyswllt di-wifr am ddim i'r cyhoedd a chyflwyno grant cynnal a chadw i fasnachwyr. 

Mae hyn yn dilyn y cyhoeddiad a gafodd ei wneud ym mis Mawrth, pan nododd y Cyngor y byddai'n ystyried opsiynau a fyddai'n galluogi'r cerbydau i deithio i un cyfeiriad ar hyd yr ardal i gerddwyr. Yn ogystal â hynny, byddai'r newid arfaethedig yma yn cyflwyno parth cyflymder 20mya i gerbydau sy'n teithio i gyfeiriad y gogledd, a chaiff mannau llwytho ac aros eu creu i helpu'r rheiny sy'n siopa. 

Cafodd y cynigion eu cyflwyno gan Gyngor Rhondda Cynon Taf, a byddan nhw'n destun ymgynghoriad statudol gyda masnachwyr a thrigolion dros y misoedd nesaf. 

Dywedodd y Cynghorydd Robert Bevan, sef Aelod o'r Cabinet ar faterion Menter, Datblygu a Thai: "Roeddwn i'n falch iawn o weld nifer fawr o fasnachwyr Tonypandy yn cael eu cynrychioli yn ein hachlysur ymgysylltu diweddar. 

"Mae'r Cyngor yn gwerthfawrogi ei berthynas â masnachwyr, ac roedden ni'n awyddus i siarad â nhw cyn gynted â phosibl ynglŷn â'n cynlluniau i wella canol tref Tonypandy. 

"Cawson ni adborth cadarnhaol, a chroesawodd y masnachwyr ein cynlluniau i adolygu'r trefniadau i gerddwyr er mwyn annog rhagor o bobl i ymweld â chanol y dref. 

"Yn ogystal â hynny, croesawodd y masnachwyr y newyddion y bydd y Cabinet yn ystyried dewis canol tref Tonypandy yn ardal beilot er mwyn cyflwyno cyswllt di-wifr am ddim i'r cyhoedd yng nghanol y dref, ynghŷd â grant cynnal a chadw newydd a fydd yn rhoi rhagor o gymorth i fasnachwyr.

 "Mae'r cynlluniau a gafodd eu hamlinellu yn yr achlysur yn ystyried yr adborth rydyn ni wedi'i gael gan fasnachwyr a Chynghorwyr lleol yn y gorffennol, a hynny ynglŷn â'r problemau sy'n effeithio ar ganol y dref. Mae hyn yn dangos bod gan y Cyngor berthynas gadarnhaol â masnachwyr yn Nhonypandy. 

"Roedden ni'n falch o glywed sylwadau eraill gan fasnachwyr ynglŷn â sut i wella canol y dref, a bellach, rydyn ni'n eu hystyried nhw hefyd wrth edrych i'r dyfodol. 

Daeth Craig Griffiths o gwmni Hilda's Florist i'r achlysur: "Roedd yn gyfarfod adeiladol a chawson ni drafodaeth a oedd yn llawn gwybodaeth ynglŷn â'r cynllun i ddatblygu'r ardal i gerddwyr. Roeddwn i a nifer o berchnogion busnes eraill yn falch iawn o hyn. 

"Rwy'n teimlo'n gadarnhaol ynglŷn â'r cynllun arfaethedig yma i adfywio Tonypandy a chyflwyno rhagor o gyfleoedd i fuddsoddi yn y dref drwy gyflwyno grantiau cynnal a chadw i siopau a chyswllt di-wifr am ddim yng nghanol y dref. Bydd hyn yn gwneud Tonypandy yn lle deniadol i ddod i siopa. 

"Mae'r dyfodol yn edrych yn ddisglair i ganol ein tref. Bydd modd i bobl barcio eu ceir mewn man cyfleus ar y stryd fawr, sy'n agos at y siopau. Yn ogystal â hynny, mae maes parcio am ddim yn bodoli eisoes i'r rheiny sydd eisiau aros am gyfnod hwy, felly bydd canol tref Tonypandy yn siŵr o ddenu pobl."    

Bydd cynigion y Cyngor i adolygu'r trefniadau i gerddwyr yn Nhonypandy yn destun ymgynghoriad statudol dros y misoedd nesaf. Yn ystod y cyfnod yma, bydd modd i fasnachwyr, trigolion a'r rheiny sy'n ymweld â Thonypandy ddweud eu dweud. 

Byddwn ni'n rhannu rhagor o wybodaeth am y broses ymgynghori yn y dyfodol agos.

Wedi ei bostio ar 25/08/17