Skip to main content

Mesurau Rheoli Cŵn ym Mharc Aberdâr - ymgynghoriad â thrigolion

Bydd Cyngor Rhondda Cynon Taf yn ymgynghori â thrigolion lleol ynglŷn â chyflwyno mesur a fyddai'n gofyn i berchenogion gadw eu cŵn ar dennyn ym Mharc Aberdâr, yn rhan o Orchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus (PSPO).

Mae'r Cyngor yn cyflwyno mesurau llymach er mwyn mynd i'r afael â pherchenogion anghyfrifol ar ôl i nifer fawr o drigolion mynegi pryderon yn ystod ymgynghoriad helaeth yn ddiweddar. Bydd y mesurau newydd yma'n cael eu hyrwyddo drwy ymgyrch Ewch â'r C*chu 'da chi!

O ganlyniad i hyn, RHAID i berchenogion cŵn gario bagiau, neu ryw ddull addas arall, er mwyn cael gwared â'r baw. Caiff cŵn hefyd eu gwahardd o HOLL ysgolion, mannau chwarae, a chaeau chwaraeon sy wedi'u marcio y mae'r Cyngor yn eu cynnal a'u cadw. Bydd RHAGOR o swyddogion gorfodi yn crwydro'r strydoedd ac bydd modd iddyn nhw roi dirwy o £100, sy'n FWY na dirwyon blaenorol.

Mae'r Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus hefyd yn nodi bod RHAID i bobl sy'n berchen ar gi dilyn cyfarwyddyd gan Swyddog Awdurdodedig, os bydd yn ei ystyried yn angenrheidiol, i gadw ci ar dennyn yn Rhondda Cynon Taf.

Mae'r Cyngor yn ymwybodol bod yna hen ddeddf-leol sy'n dyddio yn ôl at 1866 sy'n gofyn bod cŵn yn cael eu cadw ar dennyn ar bob adeg ym Mharc Aberdâr. Byddai hyn yn cael eu disodli gan y Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus ar 1 Hydref, 2017.

Fodd bynnag, ar ôl trafodaethau gyda defnyddwyr y parc, mae Cynghorwyr Lleol wedi rhoi adborth i'r Cyngor sy'n awgrymu bod trigolion lleol yn teimlo'n gryf dros gadw'r rheolau sy'n cael eu gweithredu ar hyn o bryd. Hynny yw, dylai cŵn cael eu cadw ar dennyn ar bob adeg. Mae'r farn yma'n cael ei chefnogi gan ddeiseb sydd wedi cael ei chyflwyno gan aelodau'r cyhoedd.

Felly, bydd y Cyngor yn cynnal ymgynghoriad gyda thrigolion lleol a defnyddwyr y parc ynglŷn â Pharc Aberdâr yn unig, am bedwar wythnos rhwng 14 Awst ac 11 Medi. Bydd yr ymgynghoriad yn cynnwys holiadur byr ar-lein ac achlysur ymgynghori â'r cyhoedd yn y parc ar 16 Awst. Mae'r achlysur codi ymwybyddiaeth wedi'i drefnu'n barod.

Byddwn ni hefyd yn ymgynghori â Heddlu De Cymru a chynrychiolwyr y gymuned, megis Cynghorwyr Lleol a grŵp Ffrindiau Parc Aberdâr.

Yna, byddwn ni'n cyflwyno adroddiad sy'n esbonio canlyniadau'r ymgynghoriad i'r Cabinet cyn i'r penderfyniad terfynol cael ei wneud.

Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis, Dirprwy Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Ffyniant a Lles:  "Mae'r Cyngor yn cyflwyno'r Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus er mwyn mynd i'r afael â pherchenogion cŵn anghyfrifol a sicrhau bod ein parciau, mannau chwarae, caeau chwaraeon, cefn gwlad a'n strydoedd yn lanach ac yn fwy diogel. Roedd trigolion wedi gofyn am y newidiadau yma yn ystod ymgynghoriad a gafodd ei gynnal yn gynharach yn y flwyddyn.

"Fodd bynnag, mae yna amgylchiadau unigryw sy'n gysylltiedig â hanes Parc Aberdâr ble mae gofyn i gadw cŵn ar dennyn ar bob adeg. Mae'r ddeddf-leol yma, sydd wedi bodoli ers 150 o flynyddoedd, yn golygu bod Parc Aberdâr yn wahanol i unrhyw barc yn y Fwrdeistref Sirol.

"Tra bod y Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus yn cyflwyno mesurau newydd ynglŷn â baw cŵn sydd wedi cael eu croesawu gan bobl leol, mae defnyddwyr Parc Aberdâr ac aelodau etholedig lleol wedi mynegi eu bod nhw o blaid cadw'r rheolau ynglŷn â chadw cŵn ar dennyn sy'n cael eu gweithredu ar hyn o bryd. Mae nifer o ddefnyddwyr y parc wedi hen arfer â'r rheol yma. Mae trigolion yn disgwyl bod pobl sydd eisiau mwynhau'r parc yn cadw eu cŵn ar dennyn.

"Bydd y Cyngor yn cynnal ymgynghoriad arall oherwydd yr uchod, yn ogystal â hanes unigryw Parc Aberdâr, er mwyn datrys y mater yma."

Wedi ei bostio ar 08/08/17