Skip to main content

Taith Gyfnewid Baton Gemau'r Gymanwlad ar ei ffordd i RCT

Bydd deg cludwr y baton, wedi'u dewis o'r Fwrdeistref Sirol, yn cymryd rhan yn Nhaith Gyfnewid Baton y Frenhines wrth iddi gyrraedd Rhondda Cynon Taf y mis nesaf.

Cychwynnodd Ei Mawrhydi'r Frenhines Daith Gyfnewid Baton y Frenhines yr Arfordir Aur 2018 ym mis Mawrth 2017 a bydd hi'n cyrraedd Rhondda Cynon Taf ddydd Mercher 6 Medi.

Bydd y baton yn glanio ym Mharc Coffa Ynysangharad, Pontypridd - cartref Lido Ponty, Lido Cenedlaethol Cymru - am 4pm yn rhan o'i daith 388 diwrnod o gwmpas gwledydd y Gymanwlad.

Bydd e'n cael ei dderbyn yn ffurfiol gan Faer Rhondda Cynon Taf, Y Cynghorydd Margaret Tegg, a gwesteion.

Bydd y Baton yn teithio 230,000 o gilomedrau ar yr hynt i'w gyrchfan derfynol, sef Seremoni Agor Gemau'r Gymanwlad yr Arfordir Aur ar 4 Ebrill 2018.

Cafodd Parc Coffa Ynysangharad ei ddewis yn arbennig oherwydd ei leoliad fel un o barciau mwyaf hanesyddol yr ardal. Mae'r parc, sydd oddi ar yr A470, yn agos at orsaf fysiau, gorsaf drenau, meysydd parcio, ac mae'n hawdd i'w gyrraedd ar droed o Ganol Tref Pontypridd.

Yn rhan o'i chylch o gwmpas y parc, bydd Taith Gyfnewid Baton y Gemau'r Gymanwlad 2018 yn dechrau tu allan i ardal y cyrtiau tennis am 4.15pm, gan ymweld â seindorf enwog Parc Coffa Ynysangharad am tua 4.25pm, lle bydd perfformiad gan Gôr Meibion Pontypridd.

Bydd y baton, sy'n cael ei gludo gan 10 llysgennad ifanc o'r ardal, yn mynd heibio Lido Ponty, Lido Cenedlaethol Cymru, ar ran olaf ei daith yn Rhondda Cynon Taf.

Meddai'r Cynghorydd Maureen Webber, Aelod o'r Cabinet ar faterion Busnes y Cyngor: "Y tro diwethaf i Daith Gyfnewid Baton y Frenhines ddod i'n Bwrdeistref Sirol oedd 2014, cyn Gemau'r Gymanwlad a gafodd eu cynnal yn Glasgow y flwyddyn honno.

"Daeth cannoedd o bobl i Barc Aberdâr i fod yn rhan o'r achlysur hanesyddol dair blynedd yn ôl, ac rwy'n gobeithio bydd rhagor o bobl yn dod i Barc Coffa Ynysangharad ym Mhontypridd ar 6 Medi eleni.

"Mae'n fraint enfawr i'n Bwrdeistref Sirol, felly er mwyn dathlu'r achlysur rydyn ni wedi trefnu rhaglen lawn o weithgareddau chwaraeon a pherfformiadau trwy gydol y dydd. Dewch yn llu i fod yn rhan o'r achlysur arbennig yma."

 Meddai Chris Jenkins, Prif Weithredwr Gemau'r Gymanwlad:  "Mae Tîm Cymru yn dod â'r rheiny sy'n cystadlu neu'n cefnogi'n hathletwyr at ei gilydd i gyflawni'u gorau glas yng Ngemau'r Gymanwlad. 

"Bydd y daith gymhwysol yma yn rhoi cyfle i bawb, sy ddim yn  mynd i'r Arfordir Aur, fod yn rhan o brofiad bythgofiadwy. 

"Wrth i'r baton deithio drwy Gymru, ein bwriad ni yw dathlu ein hetifeddiaeth, diwylliant, iaith a thirwedd cyfoethog ac amrywiol ar lwyfan Rhyngwladol."

Mae Taith Gyfnewid Baton Gemau'r Gymanwlad yn dod i Barc Coffa Ynysangharad, Pontypridd, ddydd Mercher 6 Medi am 4pm ymlaen. Croeso i bawb.

Cofiwch hoffi tudalen Chwaraeon RhCT ar Facebook a dilyn @SportRCT ar Twitter am y newyddion diweddaraf am achlysur Taith Gyfnewid Baton y Frenhines yn Rhondda Cynon Taf.

Wedi ei bostio ar 01/09/17