Skip to main content

Traphont Fiddler's Elbow, A472

Mae cwmni Dŵr Cymru Welsh Water yn cynnal gwaith brys i un o'r prif bibellau dŵr wrth ochr ffordd yr A472 rhwng cylchfan Fiddler's Elbow a Chylchfan Abercynon. 

Er mwyn gwneud hynny, mae un lôn ar gau ar y draphont sy'n cysylltu'r A470, Abercynon, â'r A472, Fiddler's Elbow. 

Mae'r cwmni yn cynghori gyrwyr i ddisgwyl oedi yn y cyffiniau, yn enwedig yn ystod yr oriau brig. Rhowch ddigon o amser ar gyfer eich teithiau, neu ddefnyddio ffyrdd eraill. 

Bydd mesurau rheoli traffig dros dro mewn grym trwy gydol cyfnod y gwaith brys.

Wedi ei bostio ar 01/09/2017