RhCT Gyda'n Gilydd

Fe sefydlodd y Cyngor RhCT Gyda'n Gilydd yn 2015 er mwyn gweithio mewn partneriaeth gyda Chymunedau, Sefydliadau’r Trydydd Sector a’r Sector Gwirfoddol, a Thrigolion i feithrin cymunedau sy'n fwy dyfeisgar a chydnerth.

Info

Y Diweddaraf

Cael gwybod y diweddaraf gan Garfan RhCT Gyda'n Gilydd

Hand-and-Key

Trosglwyddo Asedau Cymunedol 

Mae Trosglwyddo Asedau Cymunedol yn ymwneud â throsglwyddo adeiladau a/neu dir y Cyngor i sefydliad cymunedol “nid er elw personol”, menter gymdeithasol neu Gyngor Tref/Cymuned.

Heart-Roof

Canolfannau Cydnerthedd y Gymuned a Chymorth i Drigolion

Gall pobl fynd i'r lleoedd yma i gael gafael ar wybodaeth, cyngor ac arweiniad ynghylch sut i gael cymorth cymunedol os oes ei angen arnyn nhw

Pound-Sign

Cymorth o ran Cyllid ac Adnoddau 

Bwriwch olwg dros yr ystod o gymorth sydd ar gael i grwpiau cymunedol o ran cyllido ac adnoddau

Team

Amserlenni Rhwydweithiau Cymdogaeth

Ar hyn o bryd mae 13 Rhwydwaith Cymdogaeth ar waith ledled CBSRhCT. Maen nhw'n cwrdd yn rheolaidd er mwyn trafod yr hyn sydd o bwys i bobl leol, ac er mwyn rhannu gwybodaeth a chyngor.

Booklet

Cylchlythyron RhCT Gyda'n Gilydd

Beth am fwrw golwg ar gylchlythyron chwarterol y garfan? Rydyn ni'n gobeithio y byddwch chi o'r farn eu bod nhw'n ddiddorol ac yn llawn gwybodaeth.

Cael gwybod rhagor am RhCT O Blaid Pobl Hŷn

Rhagor o wybodaeth am y lle bwyd cynaliadwy a'i bartneriaethau yn Rhondda Cynon Taf.

Mae'r Cyngor yn dosbarthu cynnyrch urddas mislif i leoliadau yn y gymuned gan ddefnyddio grant gan Lywodraeth Cymru. Bwriad y cynllun yma yw darparu cynnyrch mislif am ddim i'r bobl y mae eu hangen fwyaf arnyn nhw. Dysgwch lle i gael gafael ar y cynnyrch yma a sut i ymuno â'r rhwydwaith.

Rhagor am ein Strategaeth Toiledau Lleol a chael gwybod ymhle mae eich toiledau cyhoeddus a mannau newid agosaf yn RhCT.

Family

Hyfforddiant yn y Gymuned

Mae'r garfan RhCT Gyda'n Gilydd yn cynnig ystod o weithdai ar gyfer grwpiau a sefydliadau cymunedol.

 

Communication

Ymrwymiad RhCT Gyda'n Gilydd

Mae Carfan RhCT Gyda'n Gilydd yn hoff o glywed syniadau newydd. Byddwn yn cydweithio â phobl gan drin pawb â charedigrwydd, parch a sensitifrwydd, gan ennyn ymdeimlad o berthyn a meithrin cymunedau bywiog, cydnerth sydd wedi'u seilio ar obaith, gwirionedd, empathi ac uniondeb. 

 

Rydyn ni yma i'ch helpu os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch chi ynghylch unrhyw un o wasanaethau RhCT Gyda'n Gilydd.

Byddai RhCT Gyda'n Gilydd yn hynod falch o gael clywed eich barn ynghylch eich Cymdogaeth. Gallwch roi eich barn i ni drwy lenwi arolwg byr, a gallwch ddarllen barn y bobl pan holon ni nhw yn 2021 hefyd.