Skip to main content

Arolwg y Trigolion – Crynodeb o'r ymatebion

Yn 2021, cymerodd 956 o drigolion RhCT ran mewn arolwg cymunedol ar sail cryfderau.

Dyma'r prif ganfyddiadau: 

  • Roedd ymdeimlad cryf o Gyfalaf Cymdeithasol yn Rhondda Cynon Taf
  • Roedd pobl yn teimlo mai teulu, iechyd a ffrindiau yw'r peth sydd bwysicaf iddyn nhw
  • Roedd pobl yn teimlo mai mannau iechyd a gweithgareddau cyhoeddus sydd bwysicaf i'w cymunedau
  • Roedd ar bobl eisiau rhagor o weithgareddau yn eu cymunedau
  • Dywedodd y mwyafrif o bobl eu bod yn barod i deithio hyd at 4 milltir i gael gafael ar wasanaethau a gweithgareddau da
  • Roedd ar bobl eisiau rhagor o gyfleoedd i ddysgu ac ymarfer y Gymraeg.

Cafodd y canlyniadau eu defnyddio i lywio blaenoriaethau'r Garfan Datblygu Cymunedau. Yn ymateb penodol i ganlyniadau'r arolwg, mae grantiau bychain wedi'u creu ar gyfer grwpiau cymunedol er mwyn iddyn nhw gynnal gweithgareddau lleol a hygyrch. Cafodd grantiau bychain megis Cronfa Rhwydweithiau Cymdogaeth eu datblygu. Mae'r gronfa yma wedi rhoi cefnogaeth i gannoedd o weithgareddau ledled cymunedau yn Rhondda Cynon Taf.

Rydyn ni'n gofalu'n bod ni'n ymateb o hyd i anghenion eu cymunedau, felly rhowch wybod i ni beth yw'ch blaenoriaethau chi drwy lenwi'r arolwg isod.

Byddwn yn cyhoeddi'r canlyniadau drwy gydol y flwyddyn.

Beth am gymryd rhan yn yr Arolwg y Trigolion newydd a dweud eich dweud ynghylch eich blaenoriaethau chi ar gyfer y blynyddoedd nesaf?