Skip to main content

Ymrwymiad RhCT Gyda'n Gilydd

Mae Carfan RhCT Gyda'n Gilydd yn hoff o glywed syniadau newydd. Byddwn yn cydweithio â phobl gan drin pawb â charedigrwydd, parch a sensitifrwydd, gan ennyn ymdeimlad o berthyn a meithrin cymunedau bywiog, cydnerth sydd wedi'u seilio ar obaith, gwirionedd, empathi ac uniondeb.

Rydyn ni'n cydnabod bod:

  • Pawb eisiau gwneud yn dda, a bod ychydig o ganmoliaeth yn mynd ymhell. Byddwn yn gwneud amser i ganmol ein gilydd a'n partneriaid.
  • Bod perthnasoedd yn gweithio'n dda pan fo gan bobl ymdeimlad o bwrpas a phan fyddan nhw'n teimlo'n rhan o'u cymuned/gwaith.
  • Bod pobl yn ffynnu pan fyddan nhw'n teimlo'n ddiogel a phan fyddan nhw mewn perthnasoedd llawn ymddiriedaeth a chefnogaeth.
  • Bod adegau ym mywydau pawb pan fydd angen clust i wrando arnyn nhw, pan fydd arnyn nhw angen cael eu clywed, a phan fydd arnyn nhw angen rhywun i dawelu eu meddwl; rydyn ni'n cydnabod y bydd safbwyntiau a sefyllfaoedd pob unigolyn yn wahanol i'w gilydd.  
  • Bod adegau hefyd pan fydd angen i ni herio'n hunain ac eraill, er mwyn gwneud newidiadau cadarnhaol.
  • Bod ar bawb angen cael eu trin mewn modd llawn ystyriaeth a dealltwriaeth.

 theimlad gwirioneddol o bwrpas rydyn ni wedi ymrwymo i'r gwerthoedd yma, felly hefyd o ran rhoi cymorth mewn modd di-duedd heb feirniadaeth, gan ddeall bod pawb yn wahanol, er mwyn ennyn ac annog cynwysoldeb â charedigrwydd.