Skip to main content

Lle Bwyd Cynaliadwy – RhCT

Pwy ydyn ni?

RCT Food Partnership LogoRhwydwaith deinamig o sefydliadau ac unigolion yw Partneriaeth Bwyd RhCT, sy'n frwd ynghylch bwyd iach, cynaliadwy a hygyrch i bawb. Mae Partneriaeth Bwyd RhCT yn dwyn aelodau o grwpiau cymunedol, cyrff cyhoeddus a busnesau bwyd ledled Cymru ynghyd. Ein gweledigaeth yw bod pob person yn Rhondda Cynon Taf yn gallu cael gafael ar fwyd iach, fforddiadwy, a bod y bwyd yn cael ei gynhyrchu a'i ddefnyddio mewn modd ystyriol o'r blaned.

Mae Lleoedd Bwyd Cynaliadwy (Sustainable Food Places) yn sefydliad sydd ar waith ledled y Deyrnas Unedig. Mae'n arwain newid yn ein systemau bwyd cyfredol ac yn rhoi cymorth i rwydweithiau bwyd ledled y DU. Dyfarnwyd statws Efydd i Bartneriaeth Bwyd RhCT ym mis Tachwedd 2023, un o'r 4 lle'n unig i gyflawni hyn.

Lleoedd Bwyd Cynaliadwy

A ninnau'n aelod o'r bartneriaeth Lleoedd Bwyd Cynaliadwy mae chwe phrif faes rydyn ni yn y broses o fynd i'r afael â nhw:

  1. Ymgymryd â dull strategol a chydweithredol o lywodraethiant o ran bwyd da
  2. Meithrin ymwybyddiaeth y cyhoedd, dinasyddiaeth weithredol o ran bwyd a mudiad bwyd da lleol.
  3. Mynd i'r afael â salwch yn ymwneud â thlodi a deiet ac ehangu mynediad at fwyd iach fforddiadwy
  4. Creu economi bwyd cynaliadwy sy'n fywiog, ffyniannus ac amrywiol
  5. Trawsnewid arlwyo a chaffael ac adnewyddu cadwyni bwyd cynaliadwy lleol
  6. Mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a natur drwy fwyd a ffermio cynaliadwy er mwyn rhoi diwedd ar wastraffu bwyd

Beth sydd ynghlwm â bod yn rhan o'r rhwydwaith?

Mae'r rhwydwaith yn cysylltu pobl ledled y DU er mwyn rhannu arfer gorau a meithrin cysylltiadau. Rydyn ni'n darparu gwybodaeth ynghylch cyllideb sydd ar gael drwy grantiau gan Gyngor RhCT a chyllidwyr eraill y gall grwpiau eu cyrchu er mwyn datblygu eu gwasanaethau bwyd.  Rydyn ni'n trefnu cyfarfodydd rhwydwaith chwarterol sy'n agored i bawb. Maen nhw'n gyfle i gael clywed am ymgyrchoedd ac achlysuron y mae'r Bartneriaeth ac aelodau'r bartneriaeth wedi'u trefnu. Mae dau is-grŵp o Rwydwaith Tyfwyr RhCT ac is-grwpiau Pantri sy'n dwyn grwpiau â modelau tebyg ynghyd.

Sut allwch chi fod yn rhan o hyn?

Os ydych chi'n sefydliad neu fusnes sydd am ymuno â'r rhwydwaith neu os hoffech chi gael gwybod sut i gael gafael ar gymorth, mynnwch air â charfan Gyda'n Gilydd RhCT gydangilydd@rctcbc.gov.uk / 01443 425368